CYHOEDDI TYMOR CYNTAF FRANCESCA GOODRIDGE FEL CYFARWYDDWR ARTISTIG THEATR Y SHERMAN

Announcements
Heddiw mae Theatr y Sherman yn cyhoeddi Yn Byw yn y Sherman 2027; tymor cyntaf Francesca Goodridge fel Cyfarwyddwr Artistig.

Bydd wyth cynhyrchiad newydd sbon yn dathlu bod yn ddynol, gyda’r nod o roi profiadau dirdynnol, teimladwy a thwymgalon i gynulleidfaoedd. Mae’r tymor yn cynnwys tri chywaith gyda chwmnïau ar draws Cymru a Lloegr.

Fel cyhoeddwyd yn flaenorol, mae tymor 2027 Theatr y Sherman yn dechrau gyda chynhyrchiad cyntaf Francesca Goodridge (Our Town, Welsh National Theatre, Snake in the Grass, Theatr Clwyd) fel Cyfarwyddwr Artistig – sef Monument gan Rhys Warrington, sy’n gyd-gynhyrchiad gyda’r Royal Court Theatre yn Llundain. Bydd Monument yn y Sherman 29 Ion–13 Chwe 2027, yn dilyn perfformiadau yn y Royal Court 3 Rhag 2026–23 Ion 2027. Cefnogir y perfformiadau yn y Sherman gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Rhys yw derbynnydd ail Fwrsariaeth PlayGC Davidson, a gefnogir gan Gwmni Theatr PlayGC a Sefydliad Alan Davidson.

Yn unol ag enw da Theatr y Sherman am ddeongliadau newydd ac arloesol o destunau clasurol ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes (Odyssey ‘84, Romeo and Julie), bydd ail gynhyrchiad 2027 yn mynd i’r afael ag un o’r dramâu enwocaf erioed. Bydd Francesca Goodridge yn cyfarwyddo Macbeth [re]imagined (12–27 Maw 2027), fersiwn newydd ddirdynnol a radical o ddrama Shakespeare am ganlyniadau dinistriol uchelgais bersonol heb ei rheoli, wedi’i gosod yn y dynosffer presennol. Bydd y cynhyrchiad Crёwyd gan y Sherman hwn dan arweiniad menywod yn cynnwys golygfeydd a deialog ychwanegol gan Rebecca Jade Hammond (Hot Chicks, Theatr y Sherman a Grand Ambition). Gan uno cynnwys digidol sy’n cael ei greu mewn amser go iawn, theatr gorfforol, symudiadau ffrwydrol, cerddoriaeth fyw a gair llafar, mae’r cynhyrchiad hygyrch hwn yn cynnig fersiwn o Macbeth ar gyfer y genhedlaeth ar-lein ochr yn ochr â deongliadau newydd a chyffrous ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gallu ei dyfynnu’n barod. Mae’r cast yn cynnwys Mared Jarman (Hero of the People, Tilting at Windmills, Theatr y Sherman) fel Lady Macbeth, gyda’r cast pellach i’w gyhoeddi.

Bydd Macbeth [re]imagined yn defnyddio BSL integredig a chapsiynau. Mae hyn yn golygu y bydd arwyddo BSL, disgrifiadau sain (heb fod angen clustffonau) a chapsiynau ym mhob sioe, wedi’u cynnwys yn nyluniad y sioe. Dyma fydd y cynhyrchiad diweddaraf a grëwyd fel rhan o gydweithrediad Craidd, sydd â’r nod o wneud theatr o Gymru y mwyaf hygyrch yn y byd, ac yn dilyn llwyddiant ysgubol Theatr Clwyd gydag Under Milk Wood yn gynharach eleni. Mae Theatr y Sherman yn falch o fod yn un o bump o sefydliadau partner Craidd. Gwnaed Craidd yn bosib drwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd Theatr y Sherman a Theatr Clwyd yn cyd-gynhyrchu perfformiad cyntaf Princess of Wales (8–23 Hyd 2027) gan y dramodydd sydd wedi ennill gwobr Ryngwladol Emmy, Daf James (Lost Boys and Fairies, BBC; Tylwyth, Theatr y Sherman/Theatr Cymru). Mae drama epig Daf James yn dilyn teulu yn Grangetown sy’n ymddatod dros ddeuddydd nodedig yn hanes cenhedlaeth yr awdur – Priodas Frenhinol 1981 ac angladd Diana, Tywysoges Cymru. Yn ddrama cyflwr-y-genedl dwymgalon, mae Princess of Wales yn ymdrin â myth cenedlaethol a galar personol, y straeon rydyn ni’n eu clywed sy’n siapio pwy rydyn ni’n meddwl ydyn ni a phŵer y gorffennol i’n gwneud ni’n fwy dynol.

Mae gan y Sherman enw da ers tro am gynnig adloniant Nadoligaidd unigryw dan arweiniad actor-gerddorion i gynulleidfaoedd o bob oed. Bydd y traddodiad hwn yn parhau yn 2027 pan fydd yr awdur Hannah McPake yn dilyn ei sioeau Nadoligaidd llwyddiannus Tales of the Brothers Grimm ac Alice: Return to Wonderland gyda thro newydd i stori fôr-ladron Robert Louis Stevenson, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae Treasure Island(ish) yn edrych ar hanes Caerdydd fel hafan i fôr-ladron a smyglwyr, ac yn talu teyrnged i ffilmiau helfa drysor clasurol yr wythdegau drwy greu sioe antur llawn cyffro a hwyl i bawb sy’n 7 oed neu’n hŷn. Mae Treasure Island(ish) ymlaen yn y Prif Dŷ (26 Tach–31 Rhag 2027).

Ar yr un pryd yn y Stiwdio, bydd ail-gread newydd Hanna Jarman o Y Tri Bwch Gafr/Billy Goats Gruff (22 Tach–31 Rhag 2027) yn dathlu caredigrwydd, undod a gofalu am ein gilydd. Wedi’i pherfformio ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg, bydd Y Tri Bwch Gafr/Billy Goats Gruff yn cynnig cyflwyniad cyfareddol i hud theatr fyw i gynulleidfaoedd 3-6 oed.

Ym mis Mai 2027, byd Theatr y Sherman yn llwyfannu’r ddeuddegfed cydweithrediad gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer gŵyl NEWYDD; sy’n un o sawl elfen mewn partneriaeth ddofn gyda’r Coleg. Comisiwn 2027 y Sherman ar gyfer NEWYDD yw Civilisation gan y dramodydd ac actor Matthew Bulgo (Constellation Street, The Other Room) a fydd yn cael ei chyfarwyddo gan Kwame Owusu (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Romeo & Julie, Theatr y Sherman a National Theatre). Mae Civilisation yn gomedi ffyrnig ac abswrdaidd am duedd ein rhywogaeth i fod yn hunanol mewn cyfnod o drychineb dorfol.

Bydd 2027 yn nodi can mlynedd ers i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ennill Cwpan yr FA; hyd heddiw nhw yw’r unig dîm y tu allan i Loegr i ennill y tlws. Bydd y garreg filltir yn cael ei nodi yn Theatr y Sherman gyda dau gynhyrchiad cymunedol. Y cyntaf yw Love, Cardiff: Football Stories (8-10 Gorff 2027), y ddiweddaraf yng nghyfres y Sherman o ddramâu gair-am-air sy’n dod â straeon a bydoedd ei chymunedau i’w llwyfannau. Crëwyd Football Stories mewn partneriaeth â Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd, elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a bydd yn cael ei pherfformio gan Sherman Players, ensemble nad yw’n broffesiynol Theatr y Sherman. Mae’r ddrama’n plethu stori’r clwb a’u buddugoliaeth hanesyddol yn yr FA, gyda straeon cyfoes pobl y mae’r bêl gron wedi effeithio ar eu bywydau. Caiff Love, Cardiff: Football Stories ei chyfarwyddo gan Francesca Pickard (Love, Cardiff: 50 years of your stories, Theatr y Sherman).

Yr ail gynhyrchiad yw addasiad newydd o The Blue Bird gan Maurice Maeterlinck. Y gwaith llenyddol anghyfarwydd ond pwysig hwn, a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Theatr Gelf Moscow fydenwog Stanislavski, yw tarddiad annisgwyl llysenw Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Newidiodd y clwb o git brown ac ambr gwreiddiol Riverside FC i’r glas cyfarwydd â stribed wen yn 1910, a phan berfformiwyd y ddrama yn Theatr Newydd Caerdydd ym mis Hydref 1911, roedd cymaint o gyffro yn y ddinas amdani nes iddi arwain at roi llysenw newydd i’r tîm. Bydd The Blue Bird yn cael ei pherfformio gan Theatr Ieuenctid y Sherman, sydd rhwng 8 a 18 oed.

Mae Theatr y Sherman hefyd wedi cyhoeddi pum awdur sydd wedi’u comisiynu i ysgrifennu ar gyfer ei chynulleidfaoedd tu hwnt i 2027: Azuka Oforka, Emily Burnett (cyd-gomisiwn gyda Royal & Derngate, Northampton), Jennifer Lunn, Katie Elin-Salt a Sian Owen (cyd-gomisiwn gyda Rose Theatre yn Kingston upon Thames).

Mae Theatr y Sherman yn falch o dderbyn, gyda Rhys Warrington, un o bump comisiwn Peter Shaffer a roddir i theatrau gan Sefydliad Elusennol Syr Peter Shaffer ac a weinyddir gan y National Theatre. Mae drama Rhys, Taliesin, sy’n datblygu ar draws dwy linell amser, yn wrthdrawiad theatrig o gariad, galar a phensaernïaeth. Mae’n dilyn ‘taid pensaernïaeth America’ Frank Lloyd Wright ac adeiladu ei dŷ annwyl, ond hefyd drwg-enwog, Taliesin – cartref i’w deulu, ei bractis… a llofruddiaeth ofnadwy. Wedi’i gomisiynu ar gyfer cynhyrchiad Crёwyd gan y Sherman mewn tymor i ddod, mae Taliesin yn dyst i uchelgais Theatr y Sherman i roi llwyfan i dalent ysgrifennu eithriadol Cymru ar raddfa fawr.

Bydd Monument a Macbeth [re]imagined ar werth i Aelodau Sherman+ ar 15 Medi 2026, Aelodau Sherman ar 17 Medi 2026 ac i’r cyhoedd ar 18 Medi 2026. Bydd pob cynhyrchiad arall yn mynd ar werth ddiwedd mis Tachwedd 2026.

I gyd-fynd â’r rhaglen newydd bydd cyfres o raglenni artistig newydd ac arloesol i sicrhau arweinyddiaeth artistig yng Nghymru, i feithrin a datblygu artistiaid sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru, ac i ddiogelu dyfodol y canon llenyddol yng Nghymru ac i helpu’r sector i ffynnu.

Bydd y rhaglen Darpar Arweinwyr Cymru – Cyfarwyddwr Cyswllt Carne yn mynd i’r afael â bwlch cydnabyddedig mewn llwybrau at arweinyddiaeth i gyfarwyddwyr theatr yng Nghymru.

Ei nod yw helpu i adeiladu piblinell o Gyfarwyddwyr Artistig sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru, gan sicrhau pan fydd swyddi arwain yn codi, fod gan sefydliadau gyfarwyddwyr medrus yng Nghymru sy’n barod i gamu iddynt. Bydd y rhaglen aml-flwyddyn hon yn cynnig tair swydd Cyfarwyddwr Cyswllt llawn amser am 18 mis dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd y Cyfarwyddwyr Cyswllt wedi’u gwreiddio yn y Sherman ac yn cael profiad ym maes rhaglennu, strategaeth sefydliadol, codi arian, partneriaethau, llywodraethu a rheoli staff. Mae’r ceisiadau’n agor heddiw drwy wefan Theatr y Sherman. Gyda chefnogaeth Philip Carne MBE a Christine Carne.

Bydd diogelu dyfodol canon theatrig Cymru yn ffocws allweddol i weithgarwch llenyddol y Sherman. Bydd Theatr y Sherman yn gweithio i gyflawni hyn drwy ddwy raglen sydd wedi’u cynllunio i feithrin gyrfaoedd awduron proffesiynol: Awduron Preswyl a Canon Cymraeg. Bydd y Sherman yn lansio rhaglen Awduron Preswyl newydd mewn partneriaeth â Stiwdio Clwyd yn 2027. Mae Canon Cymraeg yn anelu i roi hyfforddiant a mynediad i awduron iaith-Gymraeg sydd ar ddechrau eu gyrfa at gymorth pwrpasol i ddatblygu syniad am waith. Nod y rhaglen ymlyniad â thâl, 12-mis hon yw i artistiaid adael gyda chynllun cadarn i gynnig eu gwaith i’r Sherman a’i phartneriaid ar y rhaglen. Mae’r ceisiadau’n agor heddiw drwy wefan Theatr y Sherman. Gwnaed Canon Cymraeg yn bosib diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth â Frân Wen a Theatr Cymru.

Bydd dwy raglen arall yn helpu i ddatblygu awduron sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru. Bydd Location: STAGE, a gefnogir gan Bad Wolf, yn cynnig un o ddau gomisiwn sbarduno ar gyfer dramâu cyntaf i artistiaid nad ydynt erioed wedi ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae Theatr y Sherman yn falch o fod y sefydliad partner yng Nghymru ar gyfer Gwobrau Partneriaid Unlimited 26/27 sy’n helpu artistiaid anabl i wireddu gwaith newydd uchelgeisiol. Bydd y wobr yn dyfarnu £20,000 i awdur anabl sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru, sy’n cynnwys comisiwn gan y Sherman i freuddwydio ac i ddatblygu drama newydd ar gyfer ei Stiwdio. Ariennir y gwobrau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, a’r Loteri Genedlaethol drwy Creative Scotland.

Yn 2027, bydd Theatr y Sherman a’i phartner yn y gogledd, Theatr Clwyd, yn cydweithio’n agosach fyth drwy Stiwdio Clwyd i feithrin gwneuthurwyr theatr ledled y wlad gyda chefnogaeth datblygu bwrpasol. Bydd Theatr y Sherman a Stiwdio Clwyd yn parhau i gynnig cyfleoedd i gysylltu â dramodwyr blaenllaw drwy’r gyfres hynod boblogaidd Ysgrifennu Gyda… yn ogystal â chydweithio i gefnogi cyfarwyddwyr newydd cyffrous o Gymru i arsylwi’r Cyfarwyddwr Artistig Francesca Goodridge mewn ymarferion ar ei chynyrchiadau o Monument a Macbeth [re]imagined.

Bydd carfan newydd o Artistiaid Cyswllt yn ymuno â’r cwmni; grŵp deinamig, trawsddisgyblaethol a fydd yn gweithredu fel cynghorwyr dibynadwy i’r Cyfarwyddwr Artistig ac fel llysgenhadon dros y theatr.  Artistiaid Cyswllt y Sherman yw: y dramodydd a’r ysgrifennwr sgrin Azuka Oforka, yr awdur, cyfansoddwr a pherfformiwr Daf James, y cyfansoddwr, dylunydd sain a chyfarwyddwr cerdd Dyfan Jones, yr awdur, cyfarwyddwr ac actores Hannah McPake, y dylunydd set a gwisgoedd Hayley Grindle, y cyfarwyddwr symud a choreograffydd Jess Williams, yr actores ac awdur Mared Jarman, y cyfarwyddwr a dramaturg Patricia Logue, yr awdur ac actor Rhys Warrington a’r actor, darlithydd mewn actio, a chyflwynydd podlediad a radio Suzanne Packer.

Hefyd yn ymuno â theulu artistig y Sherman bydd dau Gwmni Preswyl newydd, sydd ill dau yn gwmnïau sy’n gwthio ffiniau wrth greu gwaith arloesol anhraddodiadol. Mae Coven XPerience yn gwmni celfyddydau profiadol sy’n ymroddedig i greu profiadau sain gofodol arloesol sy’n chwyddo’r rhai sy’n teimlo y tu allan i’r cylch, tra bod Matsena Productions yn gwmni perfformio sy’n canolbwyntio ar adrodd straeon corfforol wrth dynnu ar dreftadaeth Simbabwe a hunaniaeth Ddu Gymreig y brodyr a’i sefydlodd. Bydd y ddau gwmni wedi’u hymgorffori yn y tîm craidd. Bydd Theatr y Sherman yn gweithredu fel cartref creadigol lle gall syniadau esblygu a lle gellir cymryd risgiau. Yn gyfnewid, bydd y Sherman yn elwa ar weld arferion newydd a ffyrdd newydd o weithio er mwyn datblygu ei gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd ymhellach.

Cefnogir Adran Lenyddol Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

___________________________________________________________________________________________________

Yn y cyfamser, mae cynllun bwrsariaeth newydd wedi’i lansio ar draws rhaglenni ymgysylltu creadigol y Sherman i gefnogi’r rhai sy’n wynebu rhwystrau ariannol rhag cymryd rhan. Mae ceisiadau ar agor drwy wefan Theatr y Sherman.

Bydd Theatr y Sherman – y mae ei chyntedd yn fwrlwm o weithgarwch drwy’r flwyddyn gron – yn parhau i fod yn lleoliad i gymunedau’r de ddod at ei gilydd. Bydd rôl y Sherman fel adnodd dinesig prysur yn parhau trwy fentrau gan gynnwys Theatr Noddfa, Chatty Café, Banc Bwyd Caerdydd, Theatr Ieuenctid y Sherman a Sherman Players.

Mae cynllun Sherman Makers yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan yn y gwaith o greu theatr i bobl Fyddar, anabl neu niwrowahanol yn ogystal ag unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau. Ar ôl blwyddyn lwyddiannus, bydd Sherman Makers yn cymryd cam newydd cyffrous wrth i’w grŵp amrywiol o aelodau helpu i wireddu elfennau o gynhyrchiad y Prif Dŷ, Macbeth [re]imagined, fel rhan o Craidd.

Wrth gyhoeddi tymor 2027, dywedodd Francesca Goodridge: “Dw i wrth fy modd o gael rhannu fy nhymor cyntaf o waith yn y Sherman, gan lansio rhaglenni sy’n berthnasol iawn i’r hyn sydd ei angen ar artistiaid nawr, a rhestr feiddgar o gynyrchiadau sy’n cysylltu ein straeon eithriadol a’n doniau â’r byd.

“Mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Cymru – Cyfarwyddwr Cyswllt Carne yn arbennig o bersonol i mi; yn gynnar yn fy ngyrfa fy hun, agorodd cyfle fel hwn ddrws i mi, newidiodd fy ngyrfa a rhoddodd y profiad a’r ddealltwriaeth i mi allu camu i rôl arweinyddiaeth a gwneud fy swydd freuddwyd. Rydym am sicrhau bod yr un cyfle hwnnw ar gael i eraill.

“Mae cyhoeddiadau heddiw yn cynrychioli cynlluniau beiddgar i artistiaid ac uchelgais ddofn i gynulleidfaoedd a chymunedau ar draws y de a’r tu hwnt. Byddwn yn adeiladu ymhellach ar ein hanes o ddatblygu artistiaid a’r canon theatrig, gan wasanaethu cynulleidfaoedd â theatr eithriadol a gweithredu fel adnodd sifig sydd â chynhwysiant wrth ei wraidd. Wedi’n cydnabod ers tro fel theatr flaenllaw Cymru am waith newydd, ein huchelgais yw gweld y Sherman yn tyfu i fod yn bwerdy’r genedl ar gyfer gwaith newydd.

“Mae theatr yn rym byw, ac mae’r tymor yma’n dod ag artistiaid a lleisiau at ei gilydd sydd â rhywbeth dwys a diamheuol i’w ddweud. Mae’r gwaith yma’n cadarnhau ein lle fel lleoliad blaenllaw ym myd theatr gwledydd Prydain, yn creu cynyrchiadau uchelgeisiol sydd ag artistiaid o Gymru yn ganolog iddynt. Mae’r adeilad yma’n fyw – ac yn galon iddo mae ymrwymiad tanbaid i greadigrwydd, i artistiaid, ac i Gymru.”