UNWAITH ETO, YN 2025, ROEDD THEATR Y SHERMAN AR FLAEN Y GAD YM MYD THEATR CYMRU AC YN ARWAIN AR YSGRIFENNU NEWYDD CYMREIG.
Trwy berfformiadau o’n cynyrchiadau clodwiw ledled Cymru ac yn Llundain – cynyrchiadau a grëwyd yn ein hadeilad yng nghanol Cathays – rydym wedi helpu i godi proffil theatr Gymreig. Fe wnaethom barhau i ddatblygu cynulleidfa dda ar gyfer ysgrifennu newydd yng Nghymru, gan ddangos bod awydd gwirioneddol am ysgrifennu unigryw, difyr am y byd o’n cwmpas. Gweithiodd teulu eithriadol o weithwyr llawrydd ochr yn ochr â’n tîm arbenigol i ddod â’n cynyrchiadau a Grëwyd gan y Sherman yn fyw. Credwn yng ngrym theatr i uno pobl. Mae ein rhaglenni ar gyfer cymunedau a phobl ifanc wedi ysbrydoli a dod â phobl at ei gilydd.