Ar hyn o bryd mae yna waith ffordd ar Ffordd Senghennydd sydd wedi achosi lleihad arwyddocaol yn nifer y mannau parcio ar y stryd sydd ar gael. Gadewch fwy o amser ar gyfer eich taith i gynnwys hyn ac ystyriwch y dewisiadau parcio eraill fel y manylir isod.
Yn y Car
Ein Cyfeiriad: Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4YE
O’r M4 o gyfeiriad y Dwyrain (Cyffordd 29 A48) neu o’r M4 o gyfeiriad y Gorllewin (Cyffordd 32) dilynwch yr arwyddion at Ganol y Ddinas ar yr A470 (Ffordd y Gogledd).
Ewch heibio i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a throwch i’r chwith i Boulevard de Nantes.
Trowch i’r chwith i Park Place a chymerwch y troad cyntaf ar y dde i St Andrew’s Place. Ffordd Senghennydd yw’r troad llym cyntaf ar y chwith yn union wedi i chi fynd o dan y bont yn St. Andrew’s Place.
Parcio Mynediad
Mae yna gofod parcio ar gael i ddeiliaid bathodyn glas, o flaen yr adeilad. Caiff y rhain eu rheoli gan Gyngor Caerdydd a’r cyntaf i gyrraedd sy’n eu cael.
Mae yna fan gollwng gyda phalmant isel sy’n arwain at y brif fynedfa, ac yma mae gan ein prif fynedfa ddrysau cymorth sy’n arwain yn syth at y cyntedd.
Manylion parcio
Y maes parcio agosaf yw NCP Dumfries Place sy’n daith pum munud ar droed. Gellir parcio ceir ar y stryd ym Mharc Cathays sydd ychydig dros 5 munud i ffwrdd ar droed. Mae parcio ar y stryd bellach yn hynod gyfyngedig ar hyd Heol Senghennydd.
CYNIGION PARCIO ARBENNIG AR GYFER MYNYCHWYR THEATR Y SHERMAN
Gall ymwelwyr i Theatr y Sherman barcio yn NCP Dumfries Place am y prisiau arbennig canlynol:
- Cyfradd parcio yn ystod y dydd - 10.00yb tan 7.00yh £6 yn unig
- Gyda’r nos: Parcio o 5.00yh i 6.00yb y diwrnod canlynol am £4.50
I fanteisio ar y prisiau arbennig yma, yn syml, dilynwch y camau canlynol:
- Casglwch docyn parcio o’r peiriant wrth i chi fynd i mewn i’r maes parcio a daliwch eich gafael ar y tocyn hwnnw.
- Unwaith y byddwch wedi parcio eich car ewch yn eich blaenau i Theatr y Sherman, a chyn y perfformiad casglwch ail docyn parcio car o’r Swyddfa Docynnau.
- Pan ydych yn dychwelyd i’r maes parcio, yn gyntaf defnyddiwch y tocyn gwreiddiol a gasglwyd gennych o Faes Parcio Dumfries Place ac yna'r tocyn a roddwyd i chi gan Theatr y Sherman - bydd hyn yn sicrhau bod y tocyn gwreiddiol yn derbyn y disgownt.
Sylwch y bydd angen i chi gadw eich tocyn gwreiddiol gan fod angen y ddau docyn i dderbyn y disgownt.