Wrth eich bodd yn perfformio?
I’r rhai a chanddynt ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yng nghefn y llwyfan, ceir cyfle hefyd i gysgodi'r rhai yng ngrwpiau oedran hyn y Theatr Ieuenctid yn ogystal â chreu cynhyrchiad llawn.
Wrth fynychu gweithdai wythnosol - a gynhelir gan ein hymarferwyr theatr creadigol a phrofiadol - ac wrth gael cyfle i berfformio ac i ymweld â'r theatr yn rheolaidd, byddi’n datblygu amrywiaeth eang o sgiliau llwyfan, ac yn cael profiad creadigol gwych. Yn y Sherman 'rydym yn credu mewn meithrin creadigrwydd, a rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain drwy bŵer y theatr. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithredu dull arbennig o ymarfer, sy'n sicrhau fod pob perfformiad yn deillio o syniadau'r bobl sy'n cymryd rhan.
Os yw hyn yn apelio atat ti, yna cymer olwg ar y grwpiau sydd ar gael ar y rhestr isod, a cysyllta â ni er mwyn i ni archebu lle i ti!
Dyddiadau
HYDREF:
Wythnos cyntaf o'r tymor: 17/09/2018
Hanner Tymor (Dim sesiynnau): 17/09/2018
Wythnos ola'r tymor: 03/12/2018
GWANWYN:
Wythnos cyntaf o'r tymor: 21/01/2019
Hanner Tymor (Dim sesiynnau): 25/02/2019
Wythnos ola'r tymor: 08/04/2018
HAF:
Wythnos cyntaf o'r tymor: 29/04/2019
Hanner Tymor (Dim sesiynnau): 27/05/2019
Wythnos ola'r tymor: 08/07/2019
Grwpiau
Theatr Ieuenctid Grwp 1 - Blwyddyn 4 a 5 - Theatr y Sherman, Dydd Mercher 6.00pm -7.30pm
Theatr Ieuenctid Grwp 2 - Blwyddyn 6, 7 a 8 - Theatr y Sherman, Dydd Iau, 6.00pm -7.30pm
Theatr Ieuenctid Grwp 3 - Blwyddyn 9 a 10 - Theatr y Sherman, Dydd Mawrth, 6.00pm -7.30pm
Theatr Ieuenctid Grwp 4 - 16+ - Theatr y Sherman, Dydd Mercher, 7.30pm - 9.30pm
Grwp NT Connections - 13+ - Theatr y Sherman, Dydd Mercher, 7.30pm - 9.30pm
Sut i ymgeisio
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900