BETH YW SHERMAN 5?
Mae Sherman 5 yn gweithio i wneud Theatr y Sherman mor agored a hygyrch â phosibl, gan helpu i leihau neu ddileu unrhyw rwystr a all ei wneud yn anodd i rai pobl ymgysylltu â'n theatr a gweld perfformiadau yma.
Rydym am ei wneud yn haws i bobl ddod i weld a mwynhau ein sioeau i'r teulu, dramâu, theatr gerddorol, dawns a chomedi.
Rydym yn gweithio'n agos gydag unigolion a grwpiau o'r cymunedau canlynol:
• Ceiswyr lloches a ffoaduriaid - Ewch i'n tudalen Theatr Noddfa am ragor o wybodaeth.
• Pobl hŷn
• Pobl F/fyddar
• Pobl â nam ar eu golwg Gall unigolion a grwpiau yn y gymuned wneud cais i ddod yn aelodau o Sherman 5.
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac yn cynnig nifer o fuddion gwych, gan gynnwys cymorth mewn perfformiadau mynediad, tocynnau gostyngedig a chyfleoedd gwirfoddoli.
Fel Theatr Noddfa, rydym yn estyn croeso cynnes i'r holl unigolion sy'n ceisio lloches, ac yn cynnig tocynnau AM DDIM i'n holl berfformiadau ar gyfer ein haelodau o Sherman 5 sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid.
Gwybodaeth ddiweddaraf Sherman 5
Er na allwn fod gyda chi wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, rydym am barhau i gadw cysylltiad â'n haelodau, grwpiau partner a gwirfoddolwyr drwy ein sianelau ar-lein.
Er bod Theatr y Sherman ar gau dros dro, mae Claire Bottomley, cydlynydd Sherman 5, yn gweithio'n galed i greu gweithdai a gweithgareddau er mwyn i aelodau gymryd rhan ynddynt, yn ogystal â hysbysu pawb yn gyson am weithgareddau, perfformiadau a chyfleoedd i rannu sgiliau ar-lein sy'n RHAD AC AM DDIM.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ac y byddwch yn mwynhau rhai o'n gweithdai a gweithgareddau ar y cyd.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ddyddiol, ymunwch â'n grŵp Facebook yn @Sherman5
Gwyliwch Stori Sherman 5 Sarah isod. Gellir gweld straeon Sherman 5 gan naw aelod arall o Sherman 5 yma.
GALL AELODAU O SHERMAN 5 WNEUD Y CANLYNOL:
• Gwirfoddoli i fod yn Gynrychiolwyr Sherman 5 a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau/cyfleoedd. Mae Cynrychiolwyr Sherman 5 yn ennill Credydau Amser Tempo.
• Cael cymorth yn ein perfformiadau mynediad, gan gynnwys perfformiadau â dehongliad BSL, perfformiadau ag is-deitlau, perfformiadau ymlaciol ac â disgrifiad sain.
• Manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd i gael hyfforddiant am ddim a dysgu sgiliau.
• Cymryd rhan mewn diwrnodau/gweithgareddau Sherman 5 penodol.
• Cael diweddariadau rheolaidd ynglŷn â digwyddiadau a chyfleoedd.
• Cael tocynnau gostyngedig ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau am brisiau Sherman 5 (£5 neu £2.50 i bobl o dan 25 oed).
YMUNWCH NAWR
Gallwch wneud cais i ddod yn aelod o Sherman 5 ac ymuno â Sherman 5 nawr - mae aelodaeth yn rhad ac am ddim.
Gallwch wneud cais fel unigolyn neu grŵp cymunedol partner - byddai unigolyn/unigolion cyswllt dynodedig yn eich grŵp yn gallu archebu tocynnau ar gyfer eich aelodau.
I weld a ydych yn gymwys i ymuno ac i wneud cais, e-bostiwch Claire Bottomley, Cydlynydd Sherman 5, ar claire.bottomley@shermantheatre.co.uk
PWY YDYN NI A PHWY SY'N EIN HARIANNU
Arweinir tîm Sherman 5 gan Gydlynydd Sherman 5, Claire Bottomley.
Cysylltwch â Claire ar 07545 210357 neu ar claire.bottomley@shermantheatre.co.uk
Ariannwyd cyfnod cyntaf Sherman 5 o 2013 i 2018 yn hael gan Sefydliad Paul Hamlyn; Gorffennodd y cyfnod cyntaf hwn yn haf 2018 gyda dathliad o'r enw Straeon Sherman 5.
Rydym yn ffodus o fod wedi sicrhau pedair blynedd o gyllid pellach gan Sefydliad Paul Hamlyn drwy grant 'More and Better', sy’n golygu y gallwn sicrhau twf a datblygiad cyfnod nesaf Sherman 5 hyd at 2022.
Dilynwch ni ar TWITTER
Ymunwch â 'n grŵp FACEBOOK