Gweithdai drama ddydd Sadwrn i blant rhwng 4-9 mlwydd oed yn Sherman Cymru a Chapter
Sesiynau drama a theatr wythnosol yw Sherman Sherbets ar gyfer plant 4-9 mlwydd oed. Mae'n gyfle iddynt fynegi eu hunain yn greadigol ac i hybu eu hunanhyder mewn amgylchedd diogel, i gael hwyl ac i wneud ffrindiau newydd.
"Mae'r Sherbets yn hwyl! 'Rydym yn chwarae llawer o gemau fel rhai lle mae'n rhaid i chi wneud siapiau wedi'u rhewi neu weiddi'n uchel.” Leon Bogacz 8 oed
Bydd ein rhaglenni dysgu cyfunol yn cynnig sesiynau arlein yn ogystal a gweithdai fideo wedi eu recordio gydag amrywiaeth o artistiaid dysgu proffesiynol sydd a chefndir eang ym myd theatr. Fe fyddant ar gael drwy blatfform arlein, ac fe fydd modd eu gwylio unrhywbryd sy'n gyfleus i chi.
Y tymor hwn byddwn yn cynnig sesiynau fydd yn ymwneud â chynllunio theatr, cyfarwyddo, ysgrifennu, ioga a gwaith masg yn ogystal a sgiliau actio mwy traddodiadol. Bydd y tymor yn dechrau ar Fedi 14eg ac yn parhau tan ddechrau Rhagfyr, ac fe fyddwn yn cynnig sesiynau Zoom a fideos wedi eu recordio.
Hydref 2020
Sherman Sherbets - Dosbarth derbyn a Blwyddyn 1, Dydd Sadwrn, 10.00am - 11.00am
Sherman Sherbets - Blwyddyn 2 a 3, Dydd Sadwrn, 11.15am - 12.45pm
Syt i wneud cais
Am ragor o wybodaeth cysylltwch timothy.howe@shermantheatre.co.uk