Sherman Scribblers

Grwp ysgrifennu creadigol hwyliog ar gyfer aelodau

Rhannwch

Roedd Scribblers yn grwp newydd, hwyliog ar gyfer aelodau Sherman 5 sy’n mwynhau ysgrifennu creadigol.

Sesiynau berffaith ar gyfer unrhywun oedd dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu a dysgu rhagor am y theatr. Roedd pob cyfarfod misol yn llawn dop o weithgareddau wedi’u harwain gan ysgrifennwyr a chreawdwyr theatr.

Mae’n bleser gennym gyflwyno un o aelodau Sherman Scribblers i chi. Ymunodd Kevin Chubb â’r grŵp ym mis Medi 2021

Helo Kevin, dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun wrthym:

Fy enw i yw Kevin Chubb a byddaf yn 68 oed ar fy mhenblwydd nesaf. Rwy’n briod â Mair ac mae gennym dri o blant ac wyres 6 oed hyfryd – Emily Jayne. Roedd Emily Jayne yn ddigon o sioe pan wnaeth hi ddawnsio yn ystod gweithdy Sherman 5 i blant pan oedd hi’n 2 oed.

Yn ôl yn y ‘00au roeddwn i’n gweithio ar brosiect ffoaduriaid, felly rydw i wrth fy modd yn cael cysylltiad gyda sefydliad sy’n Theatr Noddfa. Rydw i wedi bod yn dywysydd gwirfoddol yn y Sherman ac yn aelod o Sherman 5 ers 2016.

Beth wnaeth eich arwain at ysgrifennu?

Yn ystod y clo mawr yn 2020 doedd gen i ddim llawer i’w wneud, fel nifer o bobl eraill. Felly, manteisiais ar y cwrs “ysgrifennu drama ar dudalen” ar-lein a gynhaliwyd gan Sherman 5 yn ystod y cyfnod clo cyntaf. O ganlyniad, dwi’n ysgrifennu drama o’r enw Ceinwen. Mae wedi’i osod yn yr Ail Ryfel Byd. Mae rhywfaint o ddawnsio, a stori am fachgen yn cwrdd â merch. Rwy’n gobeithio y bydd Theatr Ieuenctid yn ei pherfformio un diwrnod mewn Gŵyl Ddrama. Rwyf hefyd yn gweithio ar ddrama hirach. Mae hon yn sôn am ferch ifanc sy’n dod yn gantores opera er gwaethaf plentyndod anodd. Mae’r ddwy ddrama wedi eu gosod yng Nghymru.

Dywedwch fwy wrthym am Ceinwen

Rwyf wedi bod yn gweithio arni ers sbel bellach, ac yn un o sesiynau sgwennu’r Sherman Scribblers, gofynnwyd i ni feddwl am atgofion personol fel rhan o’n gweithgareddau ysgrifennu. Yn anffodus, bu farw fy rhieni o fewn wythnosau i’w gilydd yn 2015. Fel pobl ifanc buont yn byw trwy’r Ail Ryfel Byd. Pe bae nhw’n dal yn fyw, hoffwn feddwl y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn fy nrama Ceinwen. Yr olygfa a gyhoeddir yma yw’r ail o dair golygfa yn y ddrama lawn, ac rwy wrthi’n gweithio ar y ddwy olygfa arall. Bu fy niweddar dad-yng-nghyfraith yn bat man i Monty yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd Monty yn ddyn lliwgar iawn gyda phersonoliaeth enfawr – felly efallai’n wir fod lle i ddrama arall!

Dywedwch ychydig wrthym am y profiad o fod yn Sherman Scribbler:

Yn yr haf bûm yn cymryd rhan mewn cyfweliadau i hyrwyddo rhaglen gwirfoddolwyr y Sherman. Mae’n debyg fy mod i’n siarad ag angerdd! Rwy’n sicr yn angerddol ynglyn a gwerthfawrogi aelodau hyn ein cymuned. Daeth Sherman Scribblers i fodolaeth oherwydd prosiect arall oedd yn rhoi llais i aelodau hŷn y gymuned, ac mae wedi esblygu i fod yn gyfle ar gyfer pobl ar draws cenhedlaethau i ddysgu sgiliau ysgrifennu gan ddramodwyr amlwg. Mae’n gyfle i rannu gyda chyd ‘scribblers’ ac i rannu gyda’n teulu a’n ffrindiau. Mae fy merch yn mynychu’r theatr yn aml ac yn un o fy adolygwyr gorau. Mae fy wyres eisoes wedi rhoi syniad i mi am ddrama ddoniol i blant.

image