"They hate the colour of my skin and I don’t know why…..If only they could see. If only they knew. Perhaps they’d think twice about killing me."
Mae Young Queens yn grŵp o awduron a pherfformwyr ifanc Somalïaidd Cymreig rhwng 11 a 14 oed. Yn angerddol dros eu treftadaeth Gymreig a Somalïaidd, maent wedi creu pedair cerdd rymus am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn bobol ifanc Somalïaidd Cymreig heddiw.
Wrth fynd ati i greu mewn ymateb i farwolaeth George Floyd a mudiad Black Lives Matter, mae’r grŵp wedi eu hysbrydoli gan ddigwyddiadau’r gorffennol ac wedi creu datganiadau pwerus ynglŷn â phwy ydyn nhw ac ymhle mae eu gwreiddiau.
O dan arweiniad Liana Stewart, Hibo Ahmed Hussein ac Izzy Rabey, datblygodd yr awduron gysyniadau er mwyn troi eu cerddi yn ffilmiau. Mae'r pedair ffilm fer sydd wedi deillio o hynny wedi'u cynhyrchu ar y cyd â’r Hayaat Women Trust a Theatr y Sherman gyda nawdd gan y Paul Hamlyn Foundation a byddant yn cael eu rhyddhau ar Ddydd Mercher Ionawr 27 ar www.shermantheatre.co.uk