Theatr y Sherman

Gweithdy Dylunio gyda'r Artist Cyswllt Hayley Grindle

Workshop_main

Dyddiadau

Dydd Gwener 11 Rhagfyr, 2.30yp - 4.00yp

Prisiau

AM DDIM

Gwybodaeth ychwanegol

AM DDIM

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Gweithdy Dylunio gyda'r Artist Cyswllt Hayley Grindle

Bydd y gweithdy'n gyflwyniad i ddylunio hygyrch.

Pa sgyrsiau dylem ni cael?

Sut allwn ni addasu ein ffordd o feddwl a gwneud dewisiadau creadigol o ran mynediad?

Bydd y gweithdy hwn yn anelu at greu ymwybyddiaeth o hygyrchedd yn y theatr a sut y gall arwain at lwyth o ddanteithion o ran dyluniad.

Dilynir y gweithdy gan sesiwn holi ac ateb estynedig gyda chwestiynau ehangach ynghylch dylunio, perthnasoedd gwaith a’r bywyd llawrydd. Ar ddechrau’r sesiwn bydd cyfle i bawb cyflwyno eu hunain. Dewch â darn o gelf yr ydych yn ei hoffi, gall hwn fod yn llungopi neu'n rhywbeth wrth law. Mae croeso i chi ddod â choffi hefyd.

Cyflwynir y sesiwn trwy Zoom ac mae uchafswm o ddeg lle, felly byddant yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin. Hyd y sesiwn fydd awr a hanner.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk

Amserau

Dydd Gwener 11 Rhagfyr, 2.30yp - 4.00yp

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Rydym yn parhau i hyrwyddo gwneuthurwyr theatr lawrydd Gymreig neu sy’n byw yng Nghymru gydag Eich Platfform. Heddi… https://t.co/b9g6NSN3nC
Fri, 22 Jan 2021