Un dref, llawer mwy o straeon i’w hadrodd
Yn dilyn straeon hiraethus a syfrdanol Tydfil Tales, mae Theatr y Sherman yn dychwelyd i Ferthyr Tudful yr hydref hwn. Bydd y Sherman yn cydweithio unwaith eto gyda myfyrwyr celfyddydau perfformio Y Coleg Merthyr Tudful i rannu mwy o straeon o’r lle mae nhw’n ei alw’n gartref. Drwy estyn allan ar draws y gymuned bydd y prosiect hwn yn chwilio am straeon, yn datgelu cyfrinachau ac yn rhannu atgofion, hanesion a safbwyntiau.
Bydd y darn newydd hwn yn rhoi llais i’r ieuanc a’r hen, ac fe fydd yn cael ei ddatblygu, ei ddyfeisio a’i berfformio gan y myfyrwyr, a fydd yn derbyn cefnogaeth gan Jo Richards a Kayleigh Adlam o dîm Celfyddydau Perfformio Y Coleg Merthyr Tudful, yn ogystal a’r cyfarwyddwr Samantha Alice Jones a Rheolwr Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman Timothy Howe.
Eisteddwch nôl, ymlaciwch a mwynhewch leisiau na chlywyd o’r blaen o gymuned anhygoel Merthyr wrth iddynt atseinio ar draws Dyffryn Taf ac i’ch clustiau.
Mae ein ffynonellau incwm wedi diflannu.Cefnogwch ni heddiw gyda chyfraniad i’n helpu ni i barhau i wasanaethu cymunedau, cynulleidfaoedd ac artistiaid.
Cyfrannu Trwy Tecst
I gyfrannu £5 tecstiwch SHERMAN 5 i 70450
I gyfrannu £10 tecstiwch SHERMAN 10 i 70450
I gyfrannu £15 tecstiwch SHERMAN 15 i 70450
Bydd cost y neges yn cynnwys eich cyfraniad a phris un tecst arferol.