Gwybodaeth ychwanegol
Nodwch fod Tydfil Tales yn cynnwys iaith gref.
Theatr y Sherman & Y Coleg Merthyr Tudful
1 Gorffenaf o 6.00yp
Am ddim
Nodwch fod Tydfil Tales yn cynnwys iaith gref.
Dwy genhedlaeth. Un dref. Llawer o straeon.
Gwrandewch ar Soundcloud yma.
Tameidiau o atgofion, brith gof o hanner straeon, a hanesion yn cael eu rhannu gan breswyliaid cartref gofal The Daffodils ym Merthyr Tudful sy’n cael eu plethu at ei gilydd mewn drama newydd brydferth ar ffurf drama radio: Tydfil Tales.
Cafodd y straeon eu rhannu mewn sgyrsiau rhwng y preswyliaid a myfyrwyr Celfyddydau Perfformio UAL yn Y Coleg Merthyr Tudful. Cafodd y straeon eu haddasu ac maent yn cael eu perfformio gan y bobol ifanc.
Fe wnaed y ddrama yn y gymuned, gan y gymuned ac er mwyn y gymuned. Mae Tydfil Tales yn rhoi llais i ddwy genhedlaeth o ddinasyddion Merthyr Tudful, gan eu huno drwy adrodd straeon a chreadigrwydd. Mae dweud stori yn weithred hael, ac yn Tydfil Tales, mae haelioni y preswyliaid yn ein cario nôl i’r gorffennol.
Yn deimladwy a doniol, weithiau’n drist ond bob amser yn gynnes ac yn agos atoch, mae gwrando ar Tydfil Tales yn brofiad atgofus.
Yn dilyn lawnsio Tydfil Tales ar YouTube a Soundcloud ddydd Mercher Gorffennaf 1 (6.00yh), bydd y cyfarwyddwyr Timothy Howe a Samantha Alice Jones yn cynnal sesiwn holi ac ateb anffurfiol ar Zoom. Er mwyn ymuno a’r sesiwn a darganfod mwy am sut y cafodd y ddrama glywedol hon ei chreu, ebostiwch marketing@shermantheatre.co.uk i dderbyn linc. Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer athrawon drama, hwyluswyr gweithdai, artistiaid sy’n dysgu, grŵpiau cymunedol ac unigolion sydd a diddordeb yn y broses o drefnu, creu a chyfarwyddo cynhyrchiad cymunedol.
Nodwch fod Tydfil Tales yn cynnwys iaith gref.
Ariannwyd y prosiect gan Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Os ydych wedi mwynhau’r ddrama hon, gofynnwn yn garedig i chi gefnogi’r Sherman yn ystod y cyfnod anodd hwn.
I gyfrannu £5 tecstiwch SHERMAN 5 i 70450
I gyfrannu £10 tecstiwch SHERMAN 10 i 70450
I gyfrannu £15 tecstiwch SHERMAN 15 i 70450
Bydd cost y neges yn cynnwys eich cyfraniad a phris un tecst arferol.
Tydfil Tales
Yn seiliedig ar atgofion preswylwyr cartref gofal The Daffodils, Merthyr Tudful, a adroddwyd wrth fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio Y Coleg Merthyr Tudful
Cyfarwyddwyr Samantha Alice Jones a Timothy Howe
Cynllunydd a Golygydd Sain Christopher Young
Gyda chymorth:
Kayleigh Adam
Caroline Halford
Leanne Twidale
Marianna Pimentel Perez
Cast
Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio UAL yn Y Coleg Merthyr Tudful
Sam Ashman
Chloe Coleman
Lowri Cunvin
Amy Davies
Maelona Evans
Samantha Jean Gratland
Carys Lloyd
Sam Locke
Lucy-Anne O’Neill
Callum Roberts
Diolch:
Treorchy Male Voice Choir
The Haydock Male Voice Choir
Cael y wybodaeth ddiweddaraf, newyddion, yn dangos rhestrau i'ch mewnflwch. Rydym yn addo, dim sbam!
Cofrestru#DyddGŵylDewi hapus i chi i gyd gan bawb yma yn Theatr y Sherman!
Happy #StDavidsDay to you all from everyone at… https://t.co/7hPsmPViqr
Mon, 01 Mar 2021