Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr Gen Creu ar daith: Pwy 'Sgrifennodd Honna?

TGC_main

Dyddiadau

11 a 12 Mehefin 2019, 7.30yh

Prisiau

Talwch fel y mynnwch

Gwybodaeth ychwanegol

Stiwdio

Mae hwn yn gyflwyniad Cymraeg ei iaith.

Hyd y perfformiad: 140m (yn cynnwys egwyl)

Yn cynnwys iaith gref

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Darlleniadau o ddramâu gan y dramodwyr lleol Melangell Dolma, Cai Llewelyn Evans, Gruffudd Eifion Owen a Lowri Morgan.

Dyma benllanw cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2019, gyda chyfres o ddarlleniadau o ddramâu newydd gan y don nesaf o ddramodwyr Cymraeg.

Mae hwn yn gyfle unigryw i weld canlyniad 10 mis o waith creu a datblygu, dan arweiniad Theatr Genedlaethol Cymru, gan rai o’r dramodwyr Cymraeg newydd mwyaf cyffrous o bob cwr o Gymru.

Ym mhob digwyddiad ceir darlleniad o ddramâu newydd gan ddau ddramodydd, gyda sgwrs i ddilyn gyda’r dramodwyr, y cast a’r cyfarwyddwyr.

11 Mehefin | 7.30yh Darlleniadau o ddramâu gan Melangell Dolma a Cai Llewelyn Evans

12 Mehefin |  7.30yh Darlleniadau o ddramâu gan Gruffudd Eifion Owen a Lowri Morgan

I gael manylion gweddill y daith, a gwybodaeth bellach am y dramâu, ynghyd â gwybodaeth am y cast a’r cyfarwyddwyr, ewch i theatr.cymru

Mae hwn yn gyflwyniad Cymraeg ei iaith.

Mae’r Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.

Amserau

Maw 11 Meh 7.30yh
Mer 12 Meh 7.30yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Sioeau’r Haf sydd bellach ar werth yw @JinkxMonsoon a @TheMajorScales gyda'u sioe newydd Together Again, Again ar 4… https://t.co/qaaYcDYCmM
Mon, 18 Nov 2019