Dathlu gwaith artistiaid du yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon
Dyfeiswyd y syniad hwn gan Artist Cyswllt y Sherman, Suzanne Packer, er mwyn gallu clywed lleisiau pobl dduon, a bydd Platfform Agored yn rhoi cyfle i’r Sherman ddathlu gwaith artistiaid du ar eu sianelau digidol drwy gydol mis Hydref. Rydym am roi’r meicroffôn i unrhyw Artist Du Cymreig neu sy’n byw yng Nghymru er mwyn i bawb gael clywed amdanynt a’u gwaith.
Os ydych yn artist gyda darn o waith sy’n bodoli’n barod, ac os hoffech ei rannu ar y platfform hwn, gyrrwch ddatganiad yn mynegi eich diddordeb, yn ogystal a’r gwaith (fideo/darn clywedol dim hirach na phum munud o hyd, darlun, peintiad neu waith testun) a bywgraffiad byr (os hoffech ei gynnwys) i artistdevelopment@shermantheatre.co.uk
Mae ein ffynonellau incwm wedi diflannu.Cefnogwch ni heddiw gyda chyfraniad i’n helpu ni i barhau i wasanaethu cymunedau, cynulleidfaoedd ac artistiaid yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Cyfrannu Trwy Tecst
I gyfrannu £5 tecstiwch SHERMAN 5 i 70450
I gyfrannu £10 tecstiwch SHERMAN 10 i 70450
I gyfrannu £15 tecstiwch SHERMAN 15 i 70450
Bydd cost y neges yn cynnwys eich cyfraniad a phris un tecst arferol.