W I L D C A R D

Electrolyte

Dyddiadau

18 Mehefin 2019, 7.30yh

Prisiau

£16 | Dan 25 hanner pris| Gostyngiadau £2 i ffwrdd

Gwybodaeth ychwanegol

Stiwdio

Hyd y perfformiad: 70m (dim egwyl)

Yn cynnwys theamu sydd ond yn addas i oedolion, goleuadau strôb a tharth

Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y perfformiad

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Mae Jessie wedi cael llond bol ar Leeds, dinas na fyddai hi wedi dychmygu ei gadael o'r blaen. Ond mae diffyg amcan y bobl roedd hi'n arfer meddwl y byddai hi eu hangen nhw am byth yn ei mygu. Wrth feddwl a yw hi wedi cael digon mewn clwb nos brwnt cyfagos, caiff Jessie ei dallu gan oleuni Allie Touch - cantores/gyfansoddwraig sydd â blas am uchelgais, ymhlith pethau eraill. Yn teimlo'n sâl yng ngwyll pump o'r gloch y bore, mae llygaid Jessie'n sownd ar y llwybr mae Allie'n ei ysgrifennu. Ac fel gwyfyn at gannwyll, yn y nos mae hi'n deffro.

Darn o theatr gig sydd wedi ennill sawl gwobr yw Electrolyte, ac mae'n archwilio iechyd meddwl mewn ffordd rymus ar gyfer cynulleidfa gyfoes. Wedi'i ysgrifennu mewn cerdd dafod â cherddoriaeth wreiddiol yn gefndir, caiff y perfformiad llwyddiannus hwn ei berfformio gan chwe aml-offerynnwr sy'n asio cerddoriaeth fyw a straeon yn cael eu hadrodd yn fedrus.

Mae Electrolyte wedi ennill Gwobr Iechyd Meddwl y Ffrinj, Gwobr Stepladder, Gwobr LET, Gwobr Detholiad o'r Ffrinj cylchgrawn The Voice, a Gwobr Newydd-Ddyfodiaid Gorau Pleasance 2018.

Amserau

18 Mehefin 2019, 7.30yh

Adolygiadau

***** Broadway Baby 'This is what it must have felt like when audiences first watched Shakespeare'

***** 'Voice Mag 'A sense of powerful hope'

***** To Do List 'Unstoppable performance'

***** Three Weeks 'Resonated powerfully with its young audience

***** Ed Fest Mag 'Visceral, emotionally charged and engaging'

**** Daily Mail 'Packs an emotional punch that could floor Tyson Fury'

**** The Stage 'Loud, liberating electronica'

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Cyn y noson agoriadol o 'Tis Pity She's a Whore heno, roeddem am rannu'r lluniau yma o'r cynhyrchiad efo chi. Llun… https://t.co/EHpgegdumh
Thu, 18 Jul 2019