Mae ‘na fyd cyfan tu ôl i’r llen
Dewch i ddarganfod sut y cafodd eich hoff sioeau eu creu, drwy lygaid y bobl fu’n gweithio arnynt. Mae theatr yn teimlo fel rhywbeth lledrithiol, ond mae’n cael ei gyflawni drwy waith tîm, creadigrwydd a gwaith caled. Yn ein podlediad newydd bywiog, bydd actorion, tîm creadigol a staff cynhyrchu yn eich tywys tu ôl i’r llwyfan wrth iddynt rannu cyfrinachau ac egluro sut aethant ati i greu sioeau yn Theatr y Sherman.
Mae Cwrdd a’r Crewyr yn werth gwrando arno os ydych erioed wedi eistedd yn Theatr y Sherman a meddwl “tybed sut wnaethon nhw hynny?”. Bydd yn arddangos gwaith cywrain ac arbenigol yr artistiaid ar eu gorau, a’r dyfeisgarwch sydd ar waith wrth fynd ati i greu sioe.
Mae ein ffynonellau incwm wedi diflannu.Cefnogwch ni heddiw gyda chyfraniad i’n helpu ni i barhau i wasanaethu cymunedau, cynulleidfaoedd ac artistiaid yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Cyfrannu Trwy Tecst
I gyfrannu £5 tecstiwch SHERMAN 5 i 70450
I gyfrannu £10 tecstiwch SHERMAN 10 i 70450
I gyfrannu £15 tecstiwch SHERMAN 15 i 70450
Bydd cost y neges yn cynnwys eich cyfraniad a phris un tecst arferol.