Theatr Y Sherman

Crafangau / Claws

CC PI

Dyddiadau

Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd: Awst 9 - 12

Prisiau

Am ddim, ond bydd angen archebu lle o flaen llaw.

Archebwch ar lein nawr

Gwybodaeth ychwanegol

Gan Nia Morais
Cyfarwyddwr Joe Murphy

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Ymladd. Rhedeg. Rhewi. Plesio.

Mae Mamgu Mason eisiau sythu’r duwch o’i gwallt. Mae hi eisiau i Mason edrych fel rhywun arall. Beth ddylai Mason ei wneud? Yn y goedwig ger Sain Ffagan mae Mason yn cael cyfarfyddiad annisgwyl â phanther. Efallai y gall y creadur anhygoel hwn helpu Mason i ryddhau ei hun.

Dilynwch ni i goedwig gyfareddol, ychydig y tu hwnt i'n bywyd bob dydd gyda stori rymus, hudolus Nia Morais.

Perfformir Crafangau gan Mali Ann Rees gyda cherddoriaeth gan Eädyth Crawford, ac fe’i cyfarwyddir gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy. Mae'r ddrama fer hon yn ddelfrydol ar gyfer plant hŷn ac oedolion ifanc. Gellir profi Crafangau yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn perfformiadau arwahan.

Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd: Awst 9 - 12

Archebwch docynnau AM DDIM: ARCHEBWCH YMA

Mae'r perfformiadau yn Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd i bawb ac mae'r tocynnau i gyd am ddim.

Gwnewch y gorau o’ch ymweliad i weld Crafangau / Claws yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd:

  • Parcio am ddim ar y safle i ddeiliaid tocynnau.
  • Os oes gennych flanced bicnic, dewch â hi i eistedd arni. Bydd y seddi a roddir ar fatiau ar y llawr.
  • Bydd lluniaeth ar gael i'w brynu ar y safle.
  • Dewch â phicnic neu fwynhewch rywbeth o'n stondin lluniaeth yn ein parc picnic arbennig.
  • Byddwch yn derbyn slot amser dwy awr ar gyfer eich ymweliad sy'n seiliedig ar amser y perfformiad rydych chi'n eifynychu. Byddwch yn derbyn y cadarnhad hwn gan y Swyddfa Docynnau trwy e-bost.
  • Mae'n hawdd dod o hyd i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ar Penally Road.

Os ydych chi'n archebu tocynnau, ond yn canfod nad ydych chi'n gallu mynychu mwyach, e-bostiwch y Swyddfa Docynnau ar box.office@shermantheatre.co.uk.

 LLun 9 Awst  Claws (Eng) 4:00yp   Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
 Mawrth 10 Awst  Crafangau (Cym) 4:00yp  Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
 Merch 11 Awst  Claws (Eng) 4:00yp   Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
 Iau 12 Awst  Claws (Eng) 4:00yp   Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd

 

 

Amserau

 LLun 9 Awst  Claws (Eng) 4:00yp   Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
 Mawrth 10 Awst  Crafangau (Cym) 4:00yp  Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
 Merch 11 Awst  Claws (Eng) 4:00yp   Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
 Iau 12 Awst  Claws (Eng) 4:00yp   Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Awdur Nia Morais

Cyfarwyddwr Joe Murphy

Cyfansoddwr Eädyth Crawford

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Elena Thomas

 

Mason Mali Ann Rees


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Mae rhoi rhodd drwy neges destun yn ffordd gyflym a hawdd i’n helpu ni barhau i greu profiadau theatre gwych, cefno… https://t.co/jvFcvPKpHr
Fri, 23 Jul 2021