Catherine Wheels Theatre Company
mewn cydweithrediad gyda Brunton Theatre, Musselburgh


White

Dyddiadau

17 - 21 Ebrill

Prisiau

£7

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

White

Oedrannau: 2-4

Croeso i fyd prydferth a rhyfeddol White. Edrychwch sut mae’r byd yn disgleirio yn y nos, a chlywch yr adar yn trydar. Mae dau gyfaill yn gofalu am yr adar gan wneud yn siŵr fod yr wyau’n ddiogel. ‘Rydym yn gwylio, ‘rydym yn helpu. Mae’r byd yn llachar, yn drefnus ac yn wyn. Ond yn y coed fry uwchben, nid yw popeth yn wyn. Mae lliw’n ymddangos. Coch yn gyntaf... wedyn melyn... wedyn glas…

Mae White yn sioe newydd chwareus a hynod weledol i blant ifanc iawn – sioe berffaith ar gyfer profi theatr am y tro cyntaf.

Mae Catherine Wheels yn gwmni theatr i blant sydd wedi ennill gwobrau, ac wedi gwneud enw iddo’i hun yn rhyngwladol.

Mwy o wybodaeth: Catherine Wheels Theatre Company

I ddathlu cynhyrchiad White, bydd gweithgareddau i blant drwy gydol yr wythnos o Ebrill 17-20 yn ein cyntedd.

Amserau

White: Theatr 2

 
Dydd Mawrth 17 Ebrill 11yb | 2yh
Dydd Mercher 18 Ebrill 11yb | 2yh
Dydd Iau 19 Ebrill 11yb | 2yh
Dydd Gwener 20 Ebrill 11yb | 2yh
Dydd Sadwrn 21 Ebrill 11yb | 2yh

Adolygiadau

p>"Pitched very precisely at two to four year olds, Andy Manley's White is an utter delight. Using the simple language forms of the age group and recognising the things with which they find delight, he has woven a clever and entrancing narrative." The Stage

"White is what theatre is all about, striking performances, enchanting set, and above all true, moving and powerful storytelling" The Public Reviews

Cast a Tîm

Gan Andy Manley

Cyfarwyddwr:
Gill Robertson

Cynllunydd:
Shona Reppe

Cyfansoddwr:
Danny Krass

Perfformwyr:
Ian Cameron
Andy Manley


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Er hwylustod, byddwn yn ail agor llinell ffôn y Swyddfa Docynnau ar rai dyddiau drwy gydol yr haf. Heddiw, bydd lli… https://t.co/8WDgsGmfHd
Tue, 14 Jul 2020