Theatr y Sherman

LLYTHYRAU SIÔN CORN

Llythyrau Sion Corn

Dyddiadau

Y dyddiad olaf i archebu llythyr yw Rhagfyr 14, er mwyn sicrhau bod y llythyr yn cyrraedd cyn y Nadolig, oherwydd ar ôl y dyddiad hwnnw mae Siôn Corn yn brysur gyda phethau eraill!

Prisiau

£5 - £10

Gwybodaeth ychwanegol

Gwasgarwch ychydig o hud y Nadolig gyda llythyr wedi'i bersonoli gan Siôn Corn wedi’i anfon yn uniongyrchol at eich drws.

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Rydyn ni'n gweithio gyda Siôn Corn i sicrhau bod y rhai bach yn profi rhywfaint o hud y Nadolig yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr gyda llythyr gan y dyn ei hun wedi'i ddanfon yn uniongyrchol at eu drws.

Am rodd o ddim ond £5, gallwch archebu llythyr wedi'i bersonoli gan Siôn Corn. Os byddwch chi'n archebu dau lythyr wedi'i bersonoli, dim ond £8 ydyw, a £10 am dri (ynghyd â chost postio).

Dychmygwch y cyffro y bydd eich plentyn yn ei brofi wrth agor y llythyr. Bydd Siôn Corn yn gwybod cymaint amdanyn nhw gan gynnwys ble mae nhw'n byw, beth fydden nhw'n ei hoffi ar gyfer y Nadolig, beth mae nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac enw eu ffrind gorau.

Archebwch Lythyr Sion Corn, ac yna byddwn mewn cysylltiad i ddarganfod mwy i helpu Siôn Corn i ysgrifennu ei lythyr. Bydd gennych opsiwn i yrru’r llythyr yn uniongyrchol at y plentyn neu ei anfon mewn amlen arferol fel y gallwch ei guddio nes eich bod am roi y llythyr iddynt.

Y dyddiad olaf i archebu llythyr yw Rhagfyr 14, er mwyn sicrhau bod y llythyr yn cyrraedd cyn y Nadolig, oherwydd ar ôl y dyddiad hwnnw mae Siôn Corn yn brysur gyda phethau eraill!

I archebu un llythyr cliciwch yma, am ddau cliciwch yma ac am dri cliciwch yma

Amserau

Y dyddiad olaf i archebu llythyr yw Rhagfyr 14, er mwyn sicrhau bod y llythyr yn cyrraedd cyn y Nadolig, oherwydd ar ôl y dyddiad hwnnw mae Siôn Corn yn brysur gyda phethau eraill!

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Dim gwybodaeth ar gael

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Rydym yn parhau i hyrwyddo gwneuthurwyr theatr lawrydd Gymreig neu sy’n byw yng Nghymru gydag Eich Platfform. Heddi… https://t.co/b9g6NSN3nC
Fri, 22 Jan 2021