Theatr Iolo a Kitsch & Sync yn cyflwyno

Hoof!

HoofPI

Dyddiadau

Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd: Awst 9 - 12

Prisiau

Am ddim, ond bydd angen archebu lle o flaen llaw.

Archebwch ar gyfer gwyl Gwên o Hâf yn uniongyrchol. Sgroliwch lawr i’r ddolen isod i archebu.

Archebwch ar lein nawr

Gwybodaeth ychwanegol

Suitable for the whole family

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Mae gennym restr aros ar gyfer perfformiadau sydd wedi gwerthu allan. Ffoniwch 029 2064 6900 neu e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk er mwyn ychwanegu eich enw. We are operating a waiting list for sold out performances. Please call 029 2064 6900 or email box.office@shermantheatre.co.uk to be added.

 

 Antur hudol i’r goleuadau mawr

Mae tri charw bach yn dod ar draws rhywbeth annisgwyl pan drawan nhw ar hen theatr anghyfannedd yn y goedwig. Mae’r tri sosi’n snwfflian o gwmpas eu darganfyddiad newydd a buan yn eu cael eu hunain yn y goleuadau mawr ac ar lwyfan am y tro cynta un! Fydd tapio carnau’r ffrindiau’n ddigon i roi bywyd o’r newydd i’r hen theatr angof? Ynte gaiff y goleuadau’u diffodd am byth?

Dewch at Theatr Iolo dros yr haf a ninnau’n gweddnewid mannau awyr agored yn llwyfannau hudol â’n theatr deithiol. Bydd HOOF! yn gyfrwng croesawu cynulleidfaoedd yn eu holau dow-dow i ddigwyddiadau theatr fyw, yn llonni’ch cymuned leol.

 

 

Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd: Awst 9 - 12

Archebwch docynnau AM DDIM: ARCHEBWCH YMA

Mae'r perfformiadau yn Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd i bawb ac mae'r tocynnau i gyd am ddim.

Gwnewch y gorau o’ch ymweliad i weld Hoof! yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd:

  • Parcio am ddim ar y safle i ddeiliaid tocynnau.
  • Os oes gennych flanced bicnic, dewch â hi i eistedd arni. Bydd y seddi a roddir ar fatiau ar y llawr.
  • Bydd lluniaeth ar gael i'w brynu ar y safle.
  • Dewch â phicnic neu fwynhewch rywbeth o'n stondin lluniaeth yn ein parc picnic arbennig.
  • Byddwch yn derbyn slot amser dwy awr ar gyfer eich ymweliad sy'n seiliedig ar amser y perfformiad rydych chi'n eifynychu. Byddwch yn derbyn y cadarnhad hwn gan y Swyddfa Docynnau trwy e-bost.
  • Mae'n hawdd dod o hyd i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ar Penally Road.

Os ydych chi'n archebu tocynnau, ond yn canfod nad ydych chi'n gallu mynychu mwyach, e-bostiwch y Swyddfa Docynnau ar box.office@shermantheatre.co.uk.

 

Llun 9 Awst Hoof! 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd Wedi Gwerthu
Mawrth 10 Awst Hoof! 11:00am & 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd Wedi Gwerthu
Merch 11 Awst Hoof! 11:00am & 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd Wedi Gwerthu
Iau 12 Awst Hoof! 11:00am & 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd Wedi Gwerthu

 

Amserau

Llun 9 Awst Hoof! 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
Mawrth 10 Awst Hoof! 11:00am & 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
Merch 11 Awst Hoof! 11:00am & 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd
Iau 12 Awst Hoof! 11:00am & 12:30pm Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Cyfarwyddwr Lee Lyford

Co-Devisors & Performers Kitsch & Sync

Dylunydd Carl Davies

Dylunydd Sain Dyfan Jones

Dylunydd Goleuo Ceri James

Cynorthwywyr Dylunio Helen Ognjenovic-Morgan

Rheolwr Cynhyrchu Ceri James

Rheolwr Llwyfan Garrin Clarke


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Mae rhoi rhodd drwy neges destun yn ffordd gyflym a hawdd i’n helpu ni barhau i greu profiadau theatre gwych, cefno… https://t.co/jvFcvPKpHr
Fri, 23 Jul 2021