Dathlu gwaith artistiaid LHDTCRhA+ yn ystod Mis Hanes LHDT+
Bydd Platfform Agored yn gweld y Sherman yn dathlu gwaith artistiaid LHDTCRhA+ trwy eu sianeli digidol trwy gydol Mis Hanes LHDT+. Rydym am roi’r meicroffôn i unrhyw artist LHDTCRhA+ Cymreig neu sy'n byw yng Nghymru er mwyn i bawb gael clywed amdanynt a’u gwaith.
Os ydych yn artist gyda darn o waith sy’n bodoli’n barod, ac os hoffech ei rannu ar y platfform hwn, gyrrwch ddatganiad yn mynegi eich diddordeb, yn ogystal a’r gwaith (fideo/darn clywedol dim hirach na phum munud o hyd, darlun, peintiad neu waith testun) a bywgraffiad byr (os hoffech ei gynnwys) i artistdevelopment@shermantheatre.co.uk