Mae Theatr Sherman angen eich help nawr yn fwy nag erioed. Mae Theatr y Sherman yn elusen gofrestredig sy'n creu profiadau theatr gwych, yn meithrin ac yn cefnogi gwneuthurwyr theatr Cymreig a’r rhai sy’n byw yng Nghymru, yn datblygu pobl ifanc ac yn cysylltu â chymunedau ledled Caerdydd.
Dyma nodyn atgoffa o rai o'r pethau rydym yn ei wneud bob blwyddyn:
- Rydym yn creu theatr arobryn a chlodwiw yng nghalon Caerdydd.
- Mae ein sioeau Nadolig blynyddol yn rhan hanfodol o galendr tymhorol y ddinas.
- Rydym yn llwyfan i'n cwmnïau cenedlaethol, y sioeau teithiol a'r comediwyr gorau.
- Pwerdy theatr yng Nghymru - rydym yn ymroi i feithrin a chefnogi artistiaid Cymreig a’r rhai sy’n byw yng Nghymru.
- Mae ein gwaith Ymgysylltu Creadigol, Theatr Ieuenctid ac Addysg yn ysbrydoli, datblygu ac yn cysylltu gyda phobol ifanc ar draws Caerdydd a thu hwnt.
- Pob wythnos mae 110 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein cynlluniau Theatr Ieuenctid yn y Sherman.
- Mae Theatr y Sherman yn ffurfio calon ein cymuned ac mae’n le i bawb. Er enghraifft, ym mis Tachwedd y llynedd, daeth Theatr y Sherman yn Theatr Noddfa gyntaf Cymru. Mae'r statws, a ddyfarnwyd gan elusen Dinas Noddfa, yn cydnabod y Sherman fel rhywle y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches deimlo'n ddiogel, wedi'u croesawu a'u cefnogi.
Bydd eich rhodd heddiw yn ein helpu i barhau i wneud yr hyn a wnawn pan ddaw'r sefyllfa heriol hon i ben.