CYHOEDDIAD Y CAST AR GYFER SIOE NADOLIG PRIF SAFLE THEATR Y SHERMAN THE SNOW QUEEN

25 Hyd 2019

Mae cast anhygoel o gerddorion sy'n actorion wedi'i gasglu ar gyfer perfformiad cyntaf y byd cynhyrchiad Theatr y Sherman o addasiad newydd sbon Conor Mitchell o stori glasurol Hans Christian Andersen The Snow Queen (29 Tachwedd – 31 Rhagfyr).

Yn ffefryn dros genedlaethau, mae'r stori hudolus a disglair hon yn cael ei pherfformio gyda set a gwisgoedd ysblennydd, dawn adrodd stori wych, a cherddoriaeth wreiddiol swynedig er mwyn creu profiad theatraidd hudolus ar gyfer pawb sy'n saith oed ac yn hŷn.

Mae ein cast ensemble gwych yn anadlu bywyd i’r cymeriadau poblogaidd o'r straeon hoffus i blant. Bydd Stephanie McConville (Little Shop of Horrors, cwmni theatr Selladoor) yn chwarae rôl y teitl, sef y Frenhines Eira, mae Anni Dafydd (The Ugly Duckling / Yr Hwyaden Fach Hyll, Sherman Theatre & Theatr Genedlaethol Cymru) wedi'i chastio fel Gerda, a bydd Ed Parry (Industry, HBO) yn chwarae Kai. Mae'r cast hefyd yn cynnwys Rachel Nottingham (Between Us, The Mermaid), Lakesha Cammock (The Tempest, Orange Tree Theatre), Jo Servi (The Color Purple, Curve Theatre a Birmingham Hippodrome), Morgan Llewellyn Jones (The Accident, Channel 4) a Grace O’Brien (35 Diwrnod, Boom Cymru). Cyfarwyddir The Snow Queen gan Tessa Walker (101 Dalmatians, Birmingham Rep).

Mae Tessa Walker wedi dweud: ‘The Snow Queen is a magical, moving and entertaining adventure bought to life by a hugely talented cast of actors, musicians and puppeteers. A newly commissioned adaptation with a brand new epic score, this is a story of friendship, bravery and of light following the darkest of times.’

Stori Gerda yw The Snow Queen, sy'n ymadael am antur anhygoel i ddod o hyd i'w ffrind, Kai. Mae'n daith a fydd yn ei harwain yn y pen draw i balas y Frenhines Eira. Ar ei ffordd, bydd hi'n cwrdd â chymeriadau hynod ac yn ymweld â lleoedd hudolus.

Mae sioe Nadolig prif safle Theatr y Sherman wedi dod yn un o ddanteithion tymhorol hanfodol Caerdydd. Gan ei bod yn stori fythol â chariad a chyfeillgarwch wrth ei chalon, bydd The Snow Queen yn cynnal traddodiad y Sherman o fod yn ddigwyddiad perffaith ar gyfer teuluoedd y Nadolig hwn.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Sioeau’r Haf sydd bellach ar werth yw @JinkxMonsoon a @TheMajorScales gyda'u sioe newydd Together Again, Again ar 4… https://t.co/qaaYcDYCmM
Mon, 18 Nov 2019