CYHOEDDI CAST THE TAMING OF THE SHREW GAN JO CLIFFORD

28 Ion 2019

Mae Theatr y Sherman a Tron Theatre Company yn falch o gyhoeddi'r cast ar gyfer dangosiad cyntaf eu cyd-gynhyrchiad o ddrama feiddgar newydd Jo Clifford, sy'n seiliedig ar The Taming of The Shrew gan Shakespeare. Cyflwynir y cynhyrchiad, a gaiff ei gyfarwyddo gan Michael Fentiman, yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd rhwng 28 Chwefror ac 16 Mawrth ac yn Tron Theatre, Glasgow rhwng 20 a 30 Mawrth.

Yn y fersiwn fasweddus a swnllyd yma o'r clasur dadleuol, mae Jo Clifford yn gweddnewid drama wreiddiol Shakespeare ac yn paentio byd lle mai menywod sydd â'r holl rym. Mae cast eithriadol, sy'n cynnwys rhai o actorion gorau Cymru a'r Alban, wedi dod ynghyd ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Scarlett Brookes (Junkyard, Headlong/Bristol Old Vic/ TheRose /Theatr Clwyd) fydd yn chwarae Petruchio, gyda Matt Gavan (Fanny and Alexander, The Old Vic) yn chwarae rhan Katherina. Yn y cast hefyd mae Alexandria Riley (Alice in Wonderland, The Cherry Orchard, How My Light Is Spent, Sherman Theatre, The Motherf**ker with the Hat, Sherman Theatre & Tron Theatre Company) fel Tranio/Biondello/Curtis, Claire Cage (Snout, Leviathan, Sherman Theatre and Òran Mór; Bang, S4C) fel Gremio/Grunio/Pedant, a François Pandolfo (Alice in Wonderland, Sherman Theatre, The Motherf**ker with the Hat, Sherman Theatre & Tron Theatre Company) fel Muriel/Bianca, oll yn actorion o Gymru. Mae Louise Ludgate (World Domination, Sherman Theatre and Òran Mór, Taggart, SMG) yn ymuno â nhw fel y Chwaraeydd Cyntaf/Baptista/Vincentio, a Hannah Jarrett-Scott (Pride and Prejudice *Sort Of, Tron Theatre) fel Lucentio.

Yn trafod ei fersiwn newydd o The Taming of the Shrew, meddai Jo Clifford: "I was asked to adapt The Taming of the Shrew way back at the beginning of my career. But I hated the bullying and the misogyny in the play so profoundly that I turned the commission down. It's a huge joy to return to the play now and transform it from a queer perspective. So my Shrew no longer supports the patriarchy. Instead it turns it upside down. And it allows us to dream of a matriarchal world...."

Meddai Rachel O'Riordan, cyn Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, a gomisiynodd y ddrama: “Jo Clifford, as a Trans writer, felt to me to be an exciting choice to respond to this play through the prism of a modern society, through her own experience and in a cultural environment where gender is fluid and coded behaviour is becoming less endemic. I am so excited to see what happens with Jo and Michael Fentiman, who is directing this. It feels timely, bold and relevant – in keeping with the Sherman legacy of new work over the past 5 years.

The Taming of the Shrew yw ail gywaith Theatr y Sherman gyda Tron Theatre Comany, yn dilyn cynhyrchiad arbennig o lwyddiannus yn ystod gwanwyn y llynedd gyda The Motherf**ker with the Hat gan Stephen Adly Guirgis.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Os ydych heb weld #HIntoTheLight yn y Sherman gallwch eu dal ar daith o 1 Mawrth pan fyddant yn ymweld â… https://t.co/WYxIjgDJDL
Sun, 17 Feb 2019