Dyfeiswyd y syniad gan Artist Cyswllt y Sherman, Suzanne Packer, er mwyn gallu amlygu lleisiau pobl ddu, a bydd Platfform Agored yn parhau trwy gydol mis Hydref.
Yr artist nesaf i gael sylw drwy Platfform Agored yw’r actor o Gymru, Carli De’La Hughes, a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei monolog, sy’n rhan o'i drama wreiddiol Stumbling Back to Solitude, ar gael i wrando arno am ddim.
Meddai Carli: "Ysgrifennais Stumbling Back to Solitude yn ôl yn 2007 yn ystod fy mlynyddoedd yn y coleg. Monolog o'r ddrama yw'r darn byr hwn. Cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu am fy mrwydr fy hun gyda hunaniaeth a threftadaeth. Roedd yn ffordd i mi allu mynegi emosiynau mewnol drwy roi geiriau ar bapur fel petai.
“Roeddwn i'n meddwl y byddai Platfform Agored yn gyfle delfrydol i mi dyrchu drwy fy neunydd fy hun a'i berfformio, fel fod fy llais yn cael ei glywed, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn."
Mae Carli wedi gweithio’n helaeth ar deledu ac yn y theatr yng Nghymru, gan gynnwys rhannau yn Hinterland i’r BBC, Pobol y Cwm i S4C, Emmerdale i ITV a Stella i Sky One.
Drwy Platfform Agored: Mis Hanes Pobl Dduon mae’r Sherman yn dathlu gwaith artistiaid Du ar ei sianeli digidol trwy gydol mis Hydref. I wrando ar Glow, cân wreiddiol gan y cerddor o Gymru, Eädyth, cliciwch yma.
Os ydych yn artist gyda darn o waith sy’n bodoli’n barod, ac os hoffech ei rannu ar y platfform hwn, gyrrwch ddatganiad yn mynegi eich diddordeb, yn ogystal â’r gwaith (fideo/darn sain dim hwy na phum munud o hyd, darlun, peintiad neu waith testun) a bywgraffiad byr (os hoffech ei gynnwys) i artistdevelopment@shermantheatre.co.uk