My Theatre Matters! 2015 Cymraeg

04 Med 2015

Mae Gwobr Theatr Mwyaf Croesawgar ‘My Theatre Matters!’ yn dychwelyd ar gyfer ei drydedd flwyddyn ym mis Medi eleni, a bydd Theatr y Sherman yn ymuno â theatrau ar draws y DU i gystadlu am y wobr. Mae ‘My Theatre Matters!’ yn anelu i uwcholeuo pwysigrwydd y theatr o fewn cymunedau lleol a bydden ni wrth ein boddau petaech chi’n bwrw pleidlais drosom ni!

Cymerodd dros 200 o theatrau ran y llynedd a bwriwyd dros 50,000 o bleidleisiau. Bydd ennillydd y wobr eleni yn cael ei ddyfarnu trwy bleidlais gyhoeddus rhwng dydd Gwener 4ydd a dydd Gwener 25ain o Fedi.

Os hoffech bleidleisio dros y Sherman, ewch i’r wefan www.mytheatrematters.com/vote-now

My Theatre Matters

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Heno yw eich cyfle olaf i brofi drama bwerus Meic Povey, Fel Anifail. Peidiwch â’i cholli. Tocynnau:… https://t.co/uKdp2XT9u6
Sat, 20 Oct 2018