Mae Theatr y Sherman yn blaenoriaethu lles a diogelwch ei staff, ei chynulleidfa a’i chymuned. Yn dilyn y cyngor diweddaraf gan y llywodraeth ynglyn a’r coronafeirws, ac yn unol gydag aelodau eraill UK Theatre, mae’n flin gennym gyhoeddi na fydd perfformiadau yn digwydd yn Theatr y Sherman nes clywir yn wahanol. Dros y dyddiau nesaf byddwn yn gweithio i aildrefnu cymaint o berfformiadau â phosib. Os na allwn aildrefnu perfformiadau byddant yn cael eu canslo.
Mae Sherman Theatre yn elusen gofrestredig ac mae'n dibynnu ar gefnogaeth ei chynulleidfaoedd. Gall deiliaid tocynnau ar gyfer perfformiadau sydd wedi'u canslo naill ai rhoi cost eu tocynnau i gefnogi Theatr y Sherman yn ystod yr amser ansicr hwn a sicrhau y gallwn barhau i wneud y gwaith a wnawn yr ochr arall i'r sefyllfa hon, derbyn credyd ar eu cyfrif a fydd hefyd yn helpu i’n cefnogi yn ystod y cyfnod hwn neu i dderbyn ad-daliad llawn. Byddwn mewn cysylltiad â deiliaid tocynnau a byddwn yn parhau i bostio diweddariadau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Theatr y Sherman.
Mae holl sesiynau Theatr Ieuenctid y Sherman, Sherman Players a Chyflwyniad i Ysgrifennu Dramau hefyd wedi'u canslo ar hyn o bryd a bydd ein tîm Ymgysylltu Creadigol mewn cysylltiad â chyfranogwyr yn y dyddiau nesaf.
Theatr y Sherman yw eich theatr chi ac edrychwn ymlaen at bryd y gallwn eich croesawu yn ôl i berfformiadau. Gobeithiwn y bydd ein holl staff, cynulleidfaoedd a'r gymuned yn aros yn ddiogel. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar yr adeg anodd hon.
Diweddariadau:
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – KIN 20 a 21 Mawrth WEDI'I GANSLO
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru – Discover Dance 21 Mawrth WEDI'I GANSLO
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – Spring Awakening 24 -28 Mawrth WEDI'I GANSLO
Jay Rayner 26 Mawrth - wedi'i ail-drefnu ar gyfer 8 Medi
Mark Thomas 25 Mawrth - wedi'i ail-drefnu ar gyfer 2 Medi
Athletico Mince 27 Mawrth – rydym yn gweithio i ddod o hyd i ddyddiad arall
Matt Forde 2 Ebrill – wedi'i aildrefnu ar gyfer 19 Tachwedd
Horrible Histories 8 & 9 Ebrill - wed'i ail-drefnu ar gyfer 28 a 28 Hydref
Deliciously Ella 19 Mai - wedi'i ganslo
What a Wonderful World - wed'i ail-drefnu ar gyfer 4 a 5 Medi
An Enemy of the People 30 Ebr - 16 Mai - wed'i ail-drefnu ar gyfer spring 2021
Milky Peaks 6 - 9 May - wedi'i ganslo
Owl at Home 27 - 30 Mai - wedi'i ganslo
Twm Siôn Cati 12 Meh - wedi'i ganslo
Jenni Murray 4 Gorff - wedi'i ganslo