Gwirfoddoli

10 Rhag 2014

Ydych chi'n angerddol dros theatr?

Chwilio am brofiad mewn theatr sy'n cynhyrchu sioeau?

Ydych chi am gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid?

Yna, rydym yn awyddus i glywed gennych chi!

Rydym yn edrych i recriwtio tîm brwdfrydig o wirfoddolwyr i helpu darparu gwasanaeth rhagorol yn y Sherman ar gyfer ein cwsmeriaid.

Rydym yn cynnal y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau agored ar Ddydd Gwener 12 Rhagfyr, 4pm - 7pm. Dewch yn llu i gael gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn ogystal â'r hyn bydd i'w ddod wrth wirfoddoli yn y Sherman. Byddwch yn cael taith o'r adeilad a chael amser i sgwrsio ag aelodau o staff am y rôl.

Am ragor o wybodaeth ac i gorfrestru cysylltwch â Dan Biscombe, Rheolwr Gwirfoddolwyr a Phrofiad Ymwelwyr daniel.biscombe@shermancymru.co.uk

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

AR WERTH YN AWR: Mark Watson Sad 8 Meh 2019 Pobl eraill yw gwneuthuriad 99% o boblogaeth y byd: pam na allwn ni eu… https://t.co/MTwd8BD8nT
Tue, 21 Aug 2018