CYHOEDDI CAST AR GYFER CYFRES DEG THEATR Y SHERMAN: CYFRES O DDRAMAU NEWYDD BYRION

01 Mai 2020

Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi y cast ar gyfer DEG, cyfres o ddramau byrion newydd ar-lein sy’n dod a gwledd o dalent Cymreig at ei gilydd gan gynnwys wynebau cyfarwydd, actorion profiadol a thalent newydd.

Wrth i fyd y theatr gau ei drysau dros dro, meddyliodd Theatr y Sherman sut y gallai barhau i ddarparu profiadau theatrig i gynulleidfaoedd a chefnogi artistiaid, Mae DEG yn un o’r prosiectau sy’n ffurfio y rhaglen Egwyl, a grëwyd mewn ymateb i hyn. Aeth Theatr y Sherman ati i ddewis deg syniad gan ddramodwyr Cymreig neu rhai sy’n byw yng Nghymru, oedd wedi ymateb i alwad am syniad i greu monolog rhwng un a phum munud, Gwahoddwyd actorion i fynegi eu diddordeb mewn perfformio a ffilmio y monologau hyn, gan weithio gyda chyfarwyddwr. Mae’r broses bellach wedi dod i ben, ac mae Theatr y Sherman yn barod i ddechrau rhannu’r straeon hyn. Bydd dwy ddrama yn cael eu rhyddhau bob wythnos ar wefan Theatr y Sherman ac ar YouTube. Bydd y ddwy ddrama gyntaf ar gael am 2yp ar Fai 1.

Mae’r castio ar gyfer DEG fel a ganlyn: Olatunji Ayofe (Un o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 2020) yn Dom’s Drug Prayer gan Connor Allen, wedi’i gyfarwyddo gan Samantha Alice Jones

Rakie Ayola (On Bear Ridge Royal Court Theatre a National Theatre Wales, Harry Potter and the Cursed Child West End, Noughts + Crosses BBC) yn Who Runs Towards A Fire? gan Owen Thomas, wedi’i gyfarwyddo gan Hannah Noone

Gillian Elisa (Hidden/ Craith BBC/ S4C, Pobol y Cwm S4C) yn Zip gan Alun Saunders, wedi’i gyfarwyddo gan Alice Eklund

Heledd Gwynn (Hedda Gabler Theatr y Sherman) yn Y Rhyfelwraig gan Elin Phillips, wedi’i gyfarwyddo gan Alice Eklund

Non Haf (Parch S4C, Hinterland BBC/S4C) yn Love is Blind gan Sarah Louise Madden, wedi’i gyfarwyddo gan Samantha Alice Jones

Lowri Izzard (Lord of the Flies Theatr y Sherman a Theatr Clwyd) yn Belly Buttons gan Emma Cooney, wedi’i gyfarwyddo gan Samantha Alice Jones

Paisley Jackson (Un o raddedigion East 15 Acting School, BA Actio) yn Comma gan Kelly Jones, wedi’i gyfarwyddo gan Samantha Alice Jones

Mali Ann Rees (Tourist Trap BBC, Y Cylch Sialc Theatr Genedlaethol Cymru, Craith/Hidden S4C / BBC) yn (Single) Motherhood gan Alexandria Riley, wedi’i gyfarwyddo gan Hannah Noone

Steffan Rhodri (A Very English Scandal BBC, Harry Potter and The Deathly Hallows, Gavin & Stacey BBC) yn No Sleep ‘til Filton Abbey Wood gan Rick Allden, wedi’i gyfarwyddo gan Hannah Noone

Catrin Stewart (Bang S4C / BBC, Doctor Who BBC, Stella Sky) yn Love (and Loss) in the Time of Corona gan Katie Elin-Salt, wedi’i gyfarwyddo gan Hannah Noone

Mae Theatr y Sherman hefyd wedi cyhoeddi fod y cyfarwyddwyr Alice Eklund (Constellations The Other Room/ British One Acts Festival), Samantha Alice Jones (Winners Nova) a Hannah Noone (Between Eternity and Time CBCDC/ Theatr y Sherman, Grwp Cyfarwyddwyr JMK/Theatr y Sherman wedi’i gefnogi gan The Carne Trust) wedi bod yn gweithio o bell gyda’r cast.

Gwnaed DEG yn bosib drwy gyfraniad hael gan roddwr dienw.

Cafodd DEG ei ysbrydoli gan raglen Papatango, Isolated But Open.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Er hwylustod, byddwn yn ail agor llinell ffôn y Swyddfa Docynnau ar rai dyddiau drwy gydol yr haf. Heddiw, bydd lli… https://t.co/8WDgsGmfHd
Tue, 14 Jul 2020