Cyflwyniadau Sgript TAITH

25 Maw 2015

Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein bod ni'n derbyn dramau ar gyfer TAITH. Gyrrwch eich dramâu beiddgar, cyffroes a hudolus atom erbyn 12yh ar 20 Ebrill 2015. Gall y dramâu fod hyd at 10 munud o hyd ac angen uchafswm o 3 actor i'w berfformio. Mae croeso iddynt fod yn y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog.

'Da ni isio helpu i ddechrau'r broses gyda 'chydig o ysbrydoliaeth. Felly, dechreuwch eich proses gyda’r thema Gwrthryfel Cymdeithasol sydd wedi ei gymryd o ddrama newydd Gary Owen Iphigenia in Splott fydd yn cael ei gynhyrchu ganddom tymor yma a gyda'r Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, defnyddiwch y thema Gwrthryfel Cymdeithasol fel ysbrydoliaeth.

Fyddwn yn dewis tri darn i gael ei ddatblygu a'i berfformio mewn noson ddwyieithog o theatr newydd a chyffroes.

Pob lwc, 'da ni methu aros i ddarllen eich gwaith!

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @AliceYarr: Just got out of Fel Anifail at @ShermanTheatre; a slow burning and beautifully tragic production which gut punched me when I…
Thu, 18 Oct 2018