Theatr y Sherman yn cyflwyno gwaith gan greawdwyr theatr y dyfodol

05 Ebr 2019

Mae Theatr y Sherman yn ymrwymedig i ddatblygu gwneuthurwyr theatr y dyfodol trwy ei gynlluniau Datblygu Artistiaid a'i brosiectau Cymunedau ac Ymgysylltu. Dros y dyddiau nesaf, bydd gwaith a grëwyd gan bobl ifanc o ganlyniad i ddwy fenter yn cael ei rannu gyda chynulleidfaoedd.

Heddiw, 5 Ebrill, cyflwynwn Y Genhedlaeth Goll, dangosiad o theatr newydd sbon a gaiff ei greu, ei berfformio a’i berchnogi gan y bobl ifanc o Ysgol Uwchradd Radyr ac Ysgol Uwchradd Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r gwaith sy'n cael ei rannu heno yn ganlyniad o broses datblygu ac ymchwil gyda’r ddwy ysgol sydd wedi’u cefnogi’n llawn gan adran Cymunedau ac Ymgysylltu Theatr y Sherman. Meddai Timothy Howe, Cydlynydd Cymmuendau ac Ymgysylltu Theatr y Sherman “All the creative choices, from the scripts, to the set, the lighting and the sound have been choices made by the students – the Sherman’s professional theatre makers have supported their vision wholeheartedly.” Mae hwn yn brosiect Cydweithio Creadigol a gaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dros y chwe mis diwethaf mae Theatr y Sherman wedi cynnig y profiad o ysgrifennu drama am y tro cyntaf i bobl ifanc rhwng 15-18 oed. Mae dramodwyr gan gynnwys Branwen Davies a Matt Hartley wedi gweithio gyda chyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau. Ar 9 Ebrill, bydd y dramodwyr ifanc hyn yn rhannu eu gweithiau gyda chynulleidfa am y tro cyntaf erioed. Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer noson i ddathlu pobl ifanc yn mynegi eu hunain mewn cyfrwng sy’n newydd iddynt. Caiff y cynllun Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu ei gefnogi gan Esmée Fairbairn Foundation. Canlyniad y chwe mis cyntaf o'r fenter hon yw'r dangosiad.

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Heddiw rydym yn dathlu'r bobl ifanc greadigol sydd yn rhan o Theatr Ieuenctid y Sherman sy'n perfformio #SYTAgeless… https://t.co/izegkWSknx
Sun, 21 Apr 2019