PROFIADAU THEATR SAIN CALON CAERDYDD YN DYCHWELYD FEL BOCS SET

03 Chwe 2021

Mae pob un o’r deg profiad theatr sain yng nghyfres glodwiw Theatr y Sherman, Calon Caerdydd, yn dychwelyd fel rhan o Focs Set Calon Caerdydd, rhwng Chwefror 5 - 19 2021.

Yn cynnwys gwaith gan leisiau profiadol, rhai sy'n datblygu, a rhai hollol newydd, mae'r dramâu sain sy’n rhan o Galon Caerdydd yn adrodd straeon a ysbrydolwyd gan gymunedau Caerdydd, ffigyrau hanesyddol a fu’n creu newid, profiadau personol, a safbwyntiau unigryw o'r ddinas.

Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman: “Bringing back these ten pieces in the Heart of Cardiff audio theatre series felt like the best way to continue serving our audiences while we’re back in lockdown, making exceptional drama and documentary as accessible as possible to our Cardiff communities."

“We hope these audio dramas, documentaries, magical-realist plays and true stories inspire our communities in Cardiff and beyond to learn something new about their area, meet change-making characters in Welsh history, and access beautiful storytelling if they need a little escapism and entertainment.”

“We’ve loved working so closely with these writers and the Cardiff communities which inspired each play. We hope audiences enjoy listening to each audio theatre experience in the series, whether listening for the first time or delving back into their favourite play. Heart of Cardiff is for everyone, and we hope we’ve done justice to the communities and figures the series celebrates.”

Y profiadau theatr sain sy’n rhan o Galon Caerdydd yw:

Mr Carlos De Pass gan Kyle Lima
Goodbye Memory Lane gan Emma Cooney }
Peerless gan Owen Thomas
Crafangau gan Nia Morais
Bratiaith gan Mali Ann Rees
See For Yourself gan Claire Boot Centre Stage: Stories of Cardiff's LGBTQIA+ Community gan Emily Garside Rodney and the Shrieking Sisterhood gan Hannah McPake
Housemates gan Tim Green
See You Later, Meunier gan Aled Wyn Thomas

Cyfarwyddwyr dramâu sain Calon Caerdydd yw Joe Murphy, Alice Eklund, Jac Ifan Moore, a Matthew Holmquist, gyda’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol Connor Allen ac Yasmin Begum.
Tic Ashfield ac Eädyth fu’n cyfansoddi a dylunio’r sain.

Bydd Bocs Set Calon Caerdydd ar gael rhwng Chwefror 5 - 19 2021, gyda'r holl ddramâu ar gael i'w ffrydio'n rhad ac am ddim ar heartofcardiff.co.uk ac AM Cymru.

DIWEDD

Ar gyfer cynnwys, cyfweliadau ac ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: Vanessa Williams - Rheolwr Gwerthu a Mewnwelediad, Theatr y Sherman Vanessa.williams@shermantheatre.co.uk

Yn ôl

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

#DyddGŵylDewi hapus i chi i gyd gan bawb yma yn Theatr y Sherman! Happy #StDavidsDay to you all from everyone at… https://t.co/7hPsmPViqr
Mon, 01 Mar 2021