Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi'r cast ar gyfer Crafangau gan Nia Morais, sy'n rhan o gyfres Calon Caerdydd.
Yn y profiad theatr sain realaidd a hudol yma, sef drama gyntaf Nia, mae panther yn llercian drwy goed y Tyllgoed ac yn cwrdd â Mason, sydd yn ei harddegau.
Mae gan Fam-gu Mason ddelwedd o sut hoffai hi i'w hwyres edrych, a phwy hoffai iddi fod. Dydy Mason ddim yn ddigon dewr i sefyll fyny drosti'i hunan: hynny yw, tan iddi gwrdd â chreadur annisgwyl yn ddwfn yn y goedwig.
Mae'r cast yn cynnwys enwau adnabyddus ym myd theatr a theledu Cymru. Mali Ann Rees, a ysgrifennodd ddrama sain Bratiaith ar gyfer Calon Caerdydd, fydd yn chwarae rhan Mason.
Actores ddwyieithog a anwyd yng Nghaerdydd yw Mali, ac fe raddiodd o Ysgol Actio East 15 yn 2017. Dechreuodd Mali ei gyrfa fel actores yn chwarae rhan Ffion yn nrama drosedd ddwyieithog Severn Screen ar gyfer y BBC/S4C, Craith/Hidden.
Ers hynny, mae hi wedi teithio gyda Penblwydd Poenus Pete gyda Theatr Iolo, Worlds Apart in War gyda Theatr Clwyd, ac Y Cylch Sialc gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae gwaith mwyaf diweddar Mali ar y teledu'n cynnwys Merched Parchus ar S4C, a Tourist Trap ar gyfer BBC One. Perfformiodd Mali hefyd yn (Single) Motherhood gan Alexandria Riley fel rhan o gyfres DEG/TEN Theatr y Sherman yn ystod y cyfnod clo.
Manon Eames fydd yn chwarae rhan mam-gu Mason. Ar ôl astudio Saesneg a Drama ym Mhrifysgol Manceinion, mae Manon wedi gweithio'n helaeth ym myd theatr, teledu a ffilm Cymru. Yn ddiweddar, bu Manon yn chwarae rhan Gwen yn Talking to the Dead ar gyfer Sky Living, ac ymddangosodd hefyd yn Gwaith Cartref i S4C. Ar y llwyfan, chwaraeodd ran Mam yn Wyneb Dros Dro gan Cwmni 3D yn ddiweddar, ynghyd ag Angharad yn The Good The Bad and the Welsh i Frapetsus.
Meddai Joe Murphy: "Rydyn ni'n falch iawn o ddod â'r cast a'r criw yma at ei gilydd, er mwyn rhoi llais i waith Nia, ac i ddathlu'r ystod a'r ehangder sydd ar gael i ni o fewn y byd drama Cymraeg.
"Mae'r darn yma'n cyflwyno hunaniaeth, iaith, a nerth. Mae'r cast wedi dangos llawer o nerth wrth wireddu'r darn, ac allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd allu dianc i'r byd hudol mae Nia wedi'i greu.
"Gobeithio y bydd y ddrama sain yma'n taro tant gyda'r gwrandawyr, boed nhw wedi'u magu'n siarad Cymraeg neu wedi dysgu yn nes ymlaen yn eu bywydau. Rydyn ni'n falch o gynnig llwyfan i waith cyntaf Nia fel sgriptwraig, ac rydyn ni wir wedi mwynhau gweithio gyda'r cast ar y gwaith realaidd hudol yma."
Yn cyfarwyddo Crafangau bydd Jac Ifan Moore, gyda Yasmin Begum fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Eädyth fydd y Cyfansoddwr a'r Cynllunydd Sain ar gyfer Crafangau.
Bydd Crafangau ar gael am ddim o 29 Hydref ymlaen drwy wefan Theatr y Sherman a heartofcardiff.co.uk.