Rydym yn chwilio am artist i weithio ochr yn ochr â'r Dylunydd theatr Aled Wyn Williams i gyflwyno gweithdy wedi'i recordio ymlaen llaw fel rhan o'n tymor Calon Caerdydd. Bydd y gweithdy’n cyd-fynd â rhaglen ddogfen glywedol Emily Garside Center Stage: Stories of Cardiff's LGBTQIA + Community.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio ag Aled i greu cynnwys y gweithdy hwn ac yn chwarae rhan weithredol wrth gyflawni'r gwaith a gynlluniwyd. Nid oes angen profiad o arwain gweithdy. Bydd hyfforddiant hwyluso a chefnogaeth yn cael ei ddarparu gan dîm Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman.
Rydym yn gobeithio y bydd y gweithdy hwn yn gyfle i addysgu a hysbysu pobl am bwysigrwydd ac arwyddocâd y lliwiau a geir o fewn y llu o faneri balchder.
Oherwydd natur y gwaith hwn, rydym yn teimlo ei bod yn bwysig bod y sawl sy’n arwain y gweithdy yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned LHDTCRhA +, felly rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n arddel hunaniaeth Draws, Anneuaidd neu Queer ac yn gweithio yn y celfyddydau gweledol.
Mae hwn yn gyfle â thâl.
Ffi: £ 100.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Hydref
Dylai ymgeiswyr anfon amlinelliad byr o'u profiad i timothy.howe@shermantheatre.co.uk. Bydd unrhyw wybodaeth a anfonir atom yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei storio y tu hwnt i'r broses ddethol.