‘Byd Arall’: Cyfweliad efo Jac Ifan Moore, Cyfarwyddwr ‘Fel Anifail’

05 Oct 2018

Mae hi wastad yn ddiddorol i glywed sut mae dramâu yn eich cludo chi i fyd arall, yn enwedig os ydych chi yn siarad dros y ffôn o wledydd gwahanol: un person yn Amsterdam, ac un arall yng Nghaerdydd. ‘’Popeth yn iawn ar hyn o bryd!’’ dechreuodd Jac Ifan Moore, cyfarwyddwr cynhyrchiad newydd ‘Fel Anifail’ gan Meic Povey. Ar ddechrau’r trydydd wythnos o ymarferion, eisteddon ni i lawr i sgwrsio am ei waith fel cyfarwyddwr hyd yn hyn, ac yn bennaf, beth allwn ni ddisgwyl fel cynulleidfa efo un o brif gynyrchiadau ‘Theatr y Sherman’ yn ystod tymor yr Hydref.

Cafodd drama Meic Povey ei chynhyrchiad cyntaf yn 1995. Dilynodd addasiad Saesneg ar BBC Radio 4 yn 2005, ond does dim cynhyrchiad Cymraeg arall wedi cael ei lwyfannu ers y cynhyrchiad gwreiddiol. Fel dramodydd, actor a chyfarwyddwr, ystyriwyd Povey fel un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Bu farw yn 2017, ond dyw hi ddim yn gelwydd i ddweud cafodd gwaith Povey effaith sylweddol ar ddramodwyr a’r theatr yng Nghymru. Nawr, yn 2018, gall cynulleidfaoedd – hyd yn oed y rhai di-Gymraeg – brofi gwaith Povey unwaith eto. Mae ‘Fel Anifail’ yn dilyn stori Defi a Mair ar ffermdy yn y mynyddoedd, wrth iddyn nhw ddelio efo cyfrinachau tywyll o’r gorffennol. Wrth i’r syniad o adael eu cartref ddod yn anochel, mae meddyliau’n troi at straeon o’r blynyddoedd a fu. Disgrifiodd Jac tipyn am y ddrama ei hun: ‘’Mae’n teimlo fod ganddyn nhw un troed ar y mynydd ac un mewn byd arall, fel fatha ‘limbo’. Mae ‘na elfennau Samuel Beckett i’r ffurf, ac rydym yn dilyn wrth iddyn nhw ddelio da’r baw i gyd, gan bennu efo’r cwestiwn: pwy sydd ar fai?’’

Nid yw Jac yn ddieithryn fel artist i waith ‘Theatr y Sherman’, gan y bu’n aelod o grŵp cyfarwyddwyr JMK, ac yna yn gyfarwyddwr cynorthwyol i Rachel O’Riordan, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, ar ‘A Doll’s House’ ac ‘The Lion, the Witch and the Wardrobe’ yn 2015. Ers hynny, cyfarwyddodd ei gynhyrchiad iaith Gymraeg cyntaf – ‘Milwr yn y Meddwl’, cyd-gynhyrchiad rhwng ‘Theatr y Sherman’ a ‘Theatr Genedlaethol Cymru’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Credaf ei bod hi’n saff i ddweud fod perthynas Jac â’r Sherman yn un cryf: ‘’Does dim theatr arall sydd ‘di cael cymaint o effaith arnai. Mae nhw wedi bod yn hanfodol i fy natblygiad fel artist.’’ Yn dilyn ‘Fel Anifail’, bydd ei gwmni ‘PowderHouse’ (a gyd-sefydlodd â Chelsey Gillard) yn cyflwyno eu cynhyrchiad gyntaf yn y Sherman yng Ngwanwyn 2019 fel ail Gwmni Preswyl yr adeilad, cyn mynd ar daith ledled Cymru. Ond dim ond ei ail gynhyrchiad iaith Gymraeg yw ‘Fel Anifail’: ‘’Mae’r iaith a’r geirfa yn wahanol, felly mae’r swydd yn addasu tipyn i hynny – ond dyw’r broses ddim yn un hollol wahanol i unrhyw waith arall, rili.’’

Felly, hefo profiad eang o dan ei wregys, pa broses y mae Jac yn ei gymryd wrth baratoi ar gyfer prosiect newydd? ‘’Darllenais i'r ddrama yma yn uchel i fy hun yn gyntaf, gan fod iaith Ogleddol ac annaturiolaidd yn y ddrama; mae hi’n farddonol iawn. Mae’n dda i ehangu yn lle darllen. Dyna sut rydw i’n dechrau pob prosiect, trwy ddarllen pa bynnag 'ddogfen' sydd efo ni, gan weld pa ddelweddau sydd yno, ac i barhau i feddwl mewn delweddau. Efo ‘Fel Anifail’, gwelais i gwpwl yn sownd...fel d’wedodd Meic yn eiriau ei hun, mae e fel petae nhw’n teithio mewn cylch o ryw fath.’’

Yn rhan o’i waith ymchwil ar gyfer y ddrama, teithiodd Jac a dylunydd y cynhyrchiad, Rebecca Wood, i Eryri er mwyn dringo’r mynydd i ymweld â ‘Castell-y-Gwynt’, carreg bigog ar gopa’r mynydd. Maent yn seilio eu cysyniad ar y tir hynafol: ‘’mae ‘na synnwyr o’r platiau tectonig o dan y tir, a bod egni yn gwthio allan o’r pridd.’’ Mae Jac yr un mor gyffrous i weld y set yn Stiwdio'r theatr wrth iddo gael ei godi yr wythnos hon: ‘’mae penderfyniadau dyrys ‘di cael eu gwneud ar gyfer y llwyfannu...rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i chwarae ar y set.’’

Cynhaliwyd trafodaeth drylwyr ar gyflwr theatr iaith Gymraeg yng Nghymru gydag artistiaid a gwrandawyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac fel artist theatr Cymraeg, gofynnais iddo beth yr oedd yn ei feddwl am gyflwr theatr iaith Gymraeg: ‘’O fy mhrofiad i, mae cwmnïau fel ‘Theatr y Sherman’ a ‘Theatr Genedlaethol Cymru’ yn arddangos yr amser a’r hyder i ddatblygu artistiaid sy’n newydd i’w gwaith nhw fel cwmni. Ar ôl ‘Milwr’, ac ar ôl profi gwaith ‘Cwmni Pluen’ yn ddiweddar, mae ‘na ffurf ddiddorol a defnyddiol o ddefnyddio’r iaith, trwy ddulliau dwyieithog o ddweud straeon. Mae’r allbwn o gwmniau theatr i ddatblygu ac i gredu mewn theatr Cymraeg yn bwysig. Mae Theatr y Sherman wedi rhannu siwrnai hefo ni, trwy ‘Fel Anifail’ a’n gwaith gyda PowderHouse. Rydw i’n obeithiol iawn.’’

Rwy’n siŵr ein bod ni’n obeithiol hefyd, wrth i ni weld artist egnïol ac uchelgeisiol fel Jac a ‘Theatr y Sherman’ yn dringo’r ysgol gan gymryd theatr iaith Gymraeg i gyfeiriad newydd, cyffrous ar y gorwel.

Y gair olaf: holais i pam y dylai’r cyhoedd ddod i weld y ddrama: ‘’Dylai cynulleidfaoedd weld ‘Fel Anifail’ gan ei fod yn ddrama sy’n ffurf wahanol i lawer iawn o ddramâu Cymraeg eraill - dydy hi ddim yn hollol naturiol. Credaf y bydd hi o ddiddordeb mawr i gynulleidfaoedd Cymru, ond hefyd mae ‘na gyfle i ddramodwyr Cymru ofyn: sut allai synhwyro pethau cymhleth i ddramâu?’’

Gan Chris Harris

Back

Latest tweets

@ShermanTheatre

"Rachel O’Riordan leaving the Sherman is bittersweet but in this final act as Artistic Director she demonstrates fa… https://t.co/37vVsmg6J4
Sun, 16 Dec 2018