Mae sefyllfa barhaus Covid-19 yn ei gwneud hi'n anodd lansio Lleisiau Nas Clywir ar yr adeg hon. Felly mae Theatr y Sherman wedi gorfod penderfynu gohirio'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau a lansio'r prosiect tan yr hydref. Bydd dyddiadau union yn cael eu cadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid oes angen i'r rhai sydd eisoes wedi cyflwyno cymryd unrhyw gamau pellach a bydd eu cyflwyniad yn cael ei ystyried pan gyrhaeddir y dyddiad cau newydd. Sylwch, os yw ymgeiswyr yn teimlo bod eu cyflwyniad presennol wedi'i gynhyrchu o dan amgylchiadau heriol, rydym yn hapus iawn iddynt ailgyflwyno.
Cysylltu, ysbrydoli a grymuso dramodwyr benywaidd Cymreig, neu sy’n byw yng Nghymru.
Mae Lleisiau nas Clywir yn fenter newydd gan Theatr y Sherman, sy’n sicrhau fod lleisiau nas clywir yn cael eu clywed. Bob blwyddyn bydd Lleisiau nas Clywir yn cefnogi grŵp gwahanol o bobol yr hoffem ni glywed eu lleisiau ar ein llwyfannau.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd Lleisiau Nas Clywir yn cysylltu, ysbrydoli a grymuso dramodwyr benywaidd Cymreig neu sy’n byw yng Nghymru.
Beth fydd cynnwys y flwyddyn?
Mae Lleisiau nas Clywir yn gyfle gwerthfawr i ddramodwyr benywaidd.
Bydd y cyfranwyr yn cal cyfle i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeuddeg dosbarth meistr, fydd yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr blaenllaw ym myd y theatr. Bydd rhain yn cynnwys:
• Suzanne Bell, Dramatwrg, Royal Exchange Theatre, Manceinion
• Emma Callander, Cyd-Gyfarwyddwr Artistig, Theatre Uncut
• Katherine Chandler, Dramodydd ac Artist Cyswllt Theatr y Sherman
• Sharon Clark, Dramodydd, Dramatwrg, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Creadigol Raucous
• Jo Clifford, Dramodydd
• Deirdre O’Halloran, Rheolwr Llenyddol, Bush Theatre
• Charlotte Josephine, Actor a Dramodydd
• Morgan Lloyd Malcolm, Dramodydd
• Lucy Morrison, Cyfarwyddwr Cyswllt, Royal Court Theatre
• Nina Steiger, Uwch Ddramatwrg, National Theatre
Bydd cyfranwyr y rhaglen yn cael gwahoddiad i nosweithiau y wasg ar gyfer cynyrchiadau Theatr y Sherman drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal a chyfleoedd rhwydweithio eraill. Bydd cyfranwyr hefyd yn derbyn disgownt ar ddiodydd di-alcohol ym Mar Caffi y Sherman. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd gwahoddiad i’r cyfranwyr i adrodd yn ôl i Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman.
Beth ydyn ni’n ei obeithio fydd y cyfranwyr yn ei ennill yn ystod y flwyddyn?
Rydym yn gobeithio bydd y cyfranwyr yn cael cyfle i ddysgu oddi wrth ymarferwyr arbenigol, datblygu eu rhwydwaith yn y diwydiant, ac yn manteisio ar gwrdd a chysylltu gydag aelodau o dîm Theatr y Sherman. Erbyn diwedd y flwyddyn, rydym yn gobeithio bydd y cyfranwyr yn teimlo eu bod wedi adeiladu platfform i ddatblygu eu gyrfa ymhellach, a sicrhau fod eu llais yn cael ei glywed. Gobeithiwn hefyd y byddant yn teimlo mai Theatr y Sherman yw eu cartref ac y bydd ganddynt berthynas parhaol â ni.
I bwy mae’r rhaglen?
Mae’r rhaglen ar gyfer merched, a’r rheiny sy’n uniaethu fel merched, sy’n Gymry neu’n byw yng Nghymru, a thros 18 oed. Mae’r rhaglen yn agored i bob mathau o brofiad, ac nid oes rhaid cael profiad helaeth o ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Rydym yn benodol eisiau clywed gennych os nad ydi eich gwaith wedi cael ei lwyfannu na’i gomisiynu.
Pwy sy’n penderfynu pwy fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen?
Bydd panel o arbenigwyr yn ystyried y ceisiadau gan bawb sydd â diddordeb cymryd rhan, a bydd llefydd yn cael eu cynnig ar sail potensial.
Bydd y panel yn cynnwys:
- Katherine Chandler – Dramodydd ac Artist Cyswllt Theatr y Sherman
- Branwen Davies – Awdur a Gwneuthurwr Theatr
- Sara Lloyd – Cyfarwyddwr ac Actor
- Suzanne Packer – Actor ac Artist Cyswllt Theatr y Sherman
- Helen Perry - Cynhyrchydd Datblygu BBC Writersroom
Beth yw’r broses ar gyfer ymgeisio?
• Bydd y panel yn ystyried ceisiadau gan fenywod Cymreig, neu sy’n byw yng Nghymru
• Rydym yn derbyn ceisiadau nawr
• Gall eich cais fod yn ddetholiad deg tudalen o waith (yn ddelfrydol yn ddrama i’r llwyfan), neu os nad ydych wedi ysgrifennu drama eto, gall fod yn baragraff yn egluro pam y dylai eich llais gael ei glywed.
• Rydym yn derbyn ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
• Ebostiwch eich cais i artistdevelopment@shermantheatre.co.uk
• Bydd eich cais yn cael ei gyflwyno i’r panel yn ddi-enw
• Y dyddiad cau yw Ebrill 15fed am hanner dydd.