Wirfoddolwyr
Ers mis Ionawr 2015 mae dros 100 o bobl wedi dewis neilltuo peth o'u hamser gwerthfawr drwy ymuno â'n tîm o wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed i groesawu ein cynulleidfaoedd a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Mae ein tîm o stiwardiaid gwirfoddol yn grŵp gwych o unigolion sy’n angerddol am gefnogi’r Sherman a’r gwaith yr ydym yn ei wneud. Mae gwirfoddoli yn golygu mwy na helpu’r Sherman ffynnu.
Mae yna nifer o resymau pam fod ein gwirfoddolwyr wedi dewis rhoi eu hamser gwerthfawr i'n cynorthwyo, boed i wneud ffrindiau newydd neu geisio rhywbeth newydd, ennill profiadau gwerthfawr i'w rhoi ar eu CV, i gyfrannu at gymuned y celfyddydau neu hyd yn oed i ddysgu mwy am y theatr. Credwn fod y Sherman yn lle gwych i wirfoddoli, ond peidiwch gymryd ein gair ni amdano, mae ein gwirfoddolwyr wedi dweud wrthym pam eu bod yn gwirfoddoli yn Theatr y Sherman:
‘I VOLUNTEER BECAUSE IT IS FANTASTIC TO BE PART OF THE SHERMAN COMMUNITY AND IT’S A REALLY GOOD CHANCE TO SEE SOME GREAT SHOWS.’ ZARA
‘I VOLUNTEER BECAUSE BY DOING SO I’M HELPING PEOPLE LOVE THE THEATRE AS MUCH AS I DO.’ DAN
‘I VOLUNTEER BECAUSE IT IS INTELLECTUALLY AND SOCIALLY REWARDING. IT ENERGISES ME AND SOMETIMES OPENS DOORS I NEVER KNEW I WANTED TO KNOCK AT.’ ALEX
Pan fyddwch yn ymuno â’n tîm byddwch hefyd yn derbyn y holl fanteision hyn:
- Cynigion gwych ar docynnau
- Gwahoddiadau i Nosweithiau i’r Wasg
- Meithrin Sgiliau a Phrofiad
- Rhowch hwb i’ch CV yn y celfyddydau
- Datblygu ac ymarfer eich sgiliau Cymraeg a BSL
- Cwrdd ag unigolion o’r un anian
Theatr y Sherman yw’r prif dŷ cynhyrchu yn y brifddinas, ac mae’n un o’r sefydliadau celfyddydol pwysicaf yng Nghymru. I gyflawni ein hymrwymiad i greu rhaglen artistig sy’n uchelgeisiol, dyfeisgar a chofiadwy, ac i roi profiad gwych i’n cynulleidfaoedd, mae angen inni barhau i ehangu ein tîm o hebryngwyr gwirfoddol.
Beth bynnag fo’ch oed neu’ch cefndir, os ydych am gymryd rhan, byddem yn hynod falch o gyfarfod â chi.
RECRIWTIO BELLACH AR AGOR
Rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr fesul tymor, ac yn awr yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'n tîm ar gyfer Tymor yr Gwanwyn. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth pellach am y cynllun yn ein pecyn gwybodaeth. Os oes gennych ddiddordeb i ymuno â'n tîm, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais a'r ffurflen cyfleoedd cyfartal a'u dychwelyd atom unai drwy'r post neu dros e-bost. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynnau, ein cyfeiriad e-bost yw volunteers@shermantheatre.co.uk
Diolch am ddangos eich diddordeb ac edrychwn ymlaen at glywed nôl gennych chi.
Andrew, Aled, Jay a Kayleigh
Tîm Blaen Tŷ Theatr y Sherman