Cysylltu

Rydyn ni’n hoffi annog mwy o bobl, ble’n bosib, i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth ymweld â Theatr y Sherman. Fe allwn ni eich helpu trwy ddarparu cymaint o gymorth a gwybodaeth ar deithio â phosib, ar eich cyfer.

Dyma’n cyfraniad bach ni tuag at helpu gwella ein hamgylchedd, iechyd y cyhoedd ac ansawdd bywyd.

Cyrraedd y Lleoliad

Mae Theatr y Sherman yn safle theatr yn ardal Cathays, Caerdydd, ac mae’n hawdd ei gyrraedd ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd CF24 4YE

Y maes parcio agosaf yw NCP Dumfries Place sy’n daith pum munud ar droed. Gellir parcio ceir ar y stryd ym Mharc Cathays sydd ychydig dros 5 munud i ffwrdd ar droed. Mae parcio ar y stryd bellach yn hynod gyfyngedig ar hyd Heol Senghennydd.

Gall ymwelwyr i Theatr y Sherman barcio yn NCP Dumfries Place am bris arbennig o £4.50 (ar gyfer parcio o 5.00yp i 6.00yb). Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Cynlluniwch eich ymweliad

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Mae'r Swyddfa Docynnau ar agor heddiw i gymryd eich galwadau rhwng 9.00yb a 1.00yp. Os oes gennych gwestiwn am arch… https://t.co/TAiBUCgHtE
Tue, 26 Jan 2021