Mae ein clwb byddar theatr arobryn yn cynnig y canlynol i aelodau Sherman 5 sy'n aelodau o'r gymuned fyddar:
• Tocynnau Sherman 5 gostyngedig (£5 i bobl dros 25 oed / £2.50 i bobl dan 25 oed)
• Perfformiadau gydag is-deitlau neu mewn BSL
• Cyflwyniadau BSL i gynyrchiadau AM DDIM
• Cymorth BSL cyn y sioe yn ein cyntedd a'n caffi AM DDIM
• Sgyrsiau BSL ar ôl y sioe ar gyfer detholiad o gynyrchiadau AM DDIM
Bydd cymorth BSL yn ein bar caffi a chyntedd cyn pob perfformiad.
Archebwch eich tocynnau theatr ymlaen llaw i gymryd mantais o'r cynnig rhad ac am ddim hwn.
Gallwch wneud hyn drwy e-bostio’r Swyddfa Docynnau yn box.office@shermantheatre.co.uk a gadael i'n haelodau staff cyfeillgar wybod eich bod yn aelod Sherman 5 o Glwb Byddar y Theatr.
Gallwch dalu am eich tocynnau pan fyddwch yn eu casglu.
PERFFORMIADAU CLWB BYDDAR Y THEATR : GWANWYN 2020
Mae Theatr y Sherman yn blaenoriaethu lles a diogelwch ei staff, ei chynulleidfa a’i chymuned. Yn dilyn y cyngor diweddaraf gan y llywodraeth ynglyn a’r coronafeirws, ac yn unol gydag aelodau eraill UK Theatre, mae’n flin gennym gyhoeddi na fydd perfformiadau yn digwydd yn Theatr y Sherman nes clywir yn wahanol. Dros y dyddiau nesaf byddwn yn gweithio i aildrefnu cymaint o berfformiadau â phosib. Os na allwn aildrefnu perfformiadau byddant yn cael eu canslo.
Gwobr Action on Hearing Loss Cymru
Roeddem yn falch bod Action on Hearing Loss Cymru wedi cydnabod Clwb Pobl Fyddar Theatr y Sherman drwy ddyfarnu gwobr Rhagoriaeth Cymru iddo yn 2017 a 2018 - cynhaliwyd y broses ddyfarnu gan banel o bobl sy'n fyddar ac yn drwm eu clyw ac aelodau o'r elusen. Mae'r gwobrau yn cydnabod sefydliadau sy'n gweithio i wella gwasanaethau i'r 575,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi colli eu clyw.