Mae pethau anhygoel yn digwydd yn Stiwdio’r Sherman:
- Mae clasuron y dyfodol yn cael eu perfformio yno am y tro cyntaf.
- Mae ysgrifennu newydd craff yn cael ei ffurfio o fewn ei waliau.
- Mae pobl ifanc yn cael eu profiad cyntaf o berfformio ar lwyfan yno.
- Yn aml dyme lle mae aelodau ieuengaf ein cynulleidfa yn profi theatr byw am y tro cyntaf.
Drwy gyfrannu £200 a dod yn Gefnogwr y Stiwdio byddwch yn cefnogi ysgrifennu newydd, lleisiau newydd a phosibiliadau newydd.
Fel diolch am eich rhodd, bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at y bwrdd rhoddwyr fel Cefnogwr y Stiwdio ym mynedfa Stiwdio Theatr y Sherman.
Nodwch os gwelwch yn dda:
- Mae eich arysgrif ar fwrdd y Cefnogwyr y Stiwdio â chyfyngiad o 75 o lythrennau.
- Unwaith y byddwn wedi derbyn eich rhodd, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich arysgrif.
- Bydd eich enw yn cael ei osod o fewn pedair wythnos i’ch rhodd.
- Bydd cydnabyddiaeth o’ch cefnogaeth ar y bwrdd rhoddwyr Cefnogwyr Stiwdio yn parhau yn ei le am 10 mlynedd. Yna bydd gennych yr opsiwn i adnewyddu.
I ddod yn Gefnogwr y Stiwdio heddiw, cliciwch i wneud cyfraniad ar-lein neu ffoniwch 02920 646900.