BETH YW CWCI?
Ffeil destun bychan yw cwci sydd yn cael ei lawrlwytho i ‘gyfarpar terfynol’ (hy cyfrifiadur neu ffôn clyfar) pan mae defnyddiwr yn ymweld â gwefan.
Pan mae defnyddiwr yn ymweld â gwefan caiff ffeil destun bychan o’r enw cwci ei lawrlwytho a’i storio gan eich porwr gwefan ar eich dyfais. Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau fod y wefan yn gweithredu’n llawn a bod gennym ni fewnwelediad a all ein helpu i wella’r gwasanaeth y darparwn i chi.
NEWID EICH GOSODIADAU CWCIS
Gallwch ddewis i gael gwared â neu analluogi cwcis ar unrhyw adeg trwy newid gosodiadau eich porwr. Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn i'w gweld yma: www.aboutcookies.org.
GWERTHIANT TOCYNNAU PATRONBASE
Rydym yn defnyddio cymysgedd o gwcis hanfodol ac anhanfodol yn rhan o’r broses archebu arlein er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau posibl.
CWCIS HANFODOL
I fedru dilyn trywydd eich archeb mae’n hanfodol ein bod ni’n storio “cwci sesiwn” ar eich cyfrifiadur. Bydd y cwci yma’n para am 24 awr.
CWCIS ANHANFODOL
Rydym yn defnyddio ychydig o gwcis anhanfodol i deilwra eich profiad archebu ac i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy pleserus i chi. Mae’r cwcis ychwanegol hyn yn cael eu defnyddio i storio pethau megis eich manylion mewngofnodi fel y gallwch fewngofnodi’n awtomatig bob tro yr ymwelwch â’n gwefan.
GOOGLE ANALYTICS
Mae’r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth ynglyn â sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i greu adroddiadau ac i’n helpu ni i wella ein gwefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys y nifer o ymwelwyr i’r wefan, o ble mae’r ymwelwyr wedi dod i ymweld â’r wefan a’r gwefannau maent wedi ymweld â hwy. Nodwch, ni fydd rhai rhannau o’r wefan yn gweithio’n gywir os byddwch yn analluogi’r defnydd o cwcis.
CYDNABYDDIAETH CWCIS GWEFAN THEATR Y SHERMAN
Caiff hwn ei ddefnyddio i gofnodi os yw defnyddiwr wedi caniatau’r defnydd o gwcis ar wefan Theatr y Sherman.
GWEFAN TRYDYDD PERSON
Fe welwch hefyd fod dolenni ar ein gwefan drwyddi draw i wefannau trydydd person sy’n atebol i’w polisiau preifatrwydd eu hunain ac a all ddefnyddio cwcis. Rydym yn awgrymu eich bod yn adolygu eu polisiau a’u cwcis wrth ymweld â’u gwefannau ond nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros wefannau trydydd person.