Mae Theatr y Sherman ar gau ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa o ran Covid-19. Bydd llinell ffôn Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman 029 2064 6900 ar agor bob dydd Mawrth ym mis Awst rhwng 9.00yb - 1.00yp. Ar hyn o bryd mae tîm llai yn gweithio o bell, os oes angen i chi gysylltu â ni ynghylch archeb e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk
Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i'r amserlen berfformiadau yma
Cadw Tocynnau
Fe allwn ni gadw tocynnau i chi am hyd at dri diwrnod hyd nes i ni dderbyn eich taliad. Os ydych yn archebu lai na 3 diwrnod cyn y digwyddiad, fe fydd angen i chi dalu ar unwaith. Os nad ydym yn derbyn eich taliad o fewn yr amser hwn fe fyddwn yn canslo’ch tocynnau. Nid ydym yn gallu cadw tocynnau ar gyfer pob un o’n digwyddiadau.
Casglu’ch Tocynnau
Fe allwn bostio’ch tocynnau am 75c neu fe allwch gasglu’ch tocynnau pan ddewch chi i’r perfformiad.
Gellir talu am y tocynnau gydag arian, siec a mwyafrif y cardiau credyd neu ddebyd poblogaidd.
A wnewch chi sicrhau bod eich siec yn daladwy i ‘Sherman Cymru’.
Nid ydym yn codi tâl am archebu tocynnau ar gyfer unrhyw rai o’n perfformiadau ni.
Gostyngiadau
Myfyrwyr mewn addysg lawn amser, yr henoed, y rheiny sydd wedi eu cofrestru’n anabl, y rheiny sy’n hawlio budd-daliadau ac aelodau Equity yn gael gostyngiad ar bris tocynnau. Fel arfer, mae hyn yn golygu gostyngiad o £2 oddi ar y pris llawn.
Mae pobl ifanc dan 25 yn cael prynu tocynnau am hanner y pris ar gyfer mwyafrif perfformiadau Theatr y Sherman, ond nid pob un.
Archebu ar gyfer grŵp: 10% pan fyddwch chi’n archebu 8 tocyn neu fwy
Archebu ar gyfer ysgol: Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900
Os hoffech chi fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gostyngiadau, mae croeso i chi ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900
Mae gan Theatr y Sherman ymagwedd hyblyg at brisiau, fel ein bod ni’n gallu cynnig tocynnau ar amrywiaeth eang o brisiau bob tro. Fe fydd union bris pob sedd yn y theatr yn amrywio ar gyfer pob perfformiad, ond fe fydd o leiaf 40 tocyn ar gael ar y pris isaf bob tro, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ostyngiadau.
I gael gwybodaeth am y prisiau ar gyfer pob perfformiad, edrychwch ar dudalennau’r wefan neu siaradwch ag un o’n Cynorthwywyr Tocynnau a’r Dderbynfa - 029 2064 6900.
Mae’r amodau a thelerau llawn ar gyfer archebu tocynnau ar gael trwy glicio ar shermantheatre.co.uk/telerauacamodau
ARDOLL TOCYNNAU
Mae prisiau tocynnau ar gyfer perfformiadau yn Theatr y Sherman yn cynnwys ardoll tocynnau.