Dyluniwyd ein gŵyl Ymlaen â’r Sioe i groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i’r Sherman gyda pherfformiadau byr. Daeth ysgrifenwyr, crewyr, perfformwyr a thîm y Sherman ynghyd i greu profiadau a fyddai’n ailgysylltu ein cynulleidfaoedd â llawenydd theatr byw. Wrth galon y tymor bu Golwg Gwahanol, pedair drama newydd gan leisiau gwreiddiol y byd theatr yng Nghymru. Ysbrydolwyd pob darn gan ddramâu neu lyfrau clasurol. Yn rhan o Golwg Gwahanol roedd: Hamlet is a F&£$boi, wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Lowri Jenkins; The Messenger wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Seiriol Davies; The Love Thief, wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Rahim El Habachi a Tilting at Windmills, wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Hannah Mcpake a’i berfformio gan Mared Jarman.
Gwnaed yn Sherman
Mae popeth ar gyfer ein cynyrchiadau ein hunain wedi’i greu yma, o dan ein to ni yn Cathays. Mae theatr yn ymdrech dîm, ac mae angen cymysgedd amrywiol o sgiliau artistig, cynhyrchu a gweinyddol, er mwyn ei wireddu. Ar y dudalen yma, bob tymor byddwn ni’n dathlu’r bobl sy’n hanfodol i Theatr y Sherman, gan gynnwys timau creadigol llawrydd a thîm staff preswyl y Sherman.
Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig