Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu

UpRoar

Crëwyd yn y Sherman Theatre
Archive

Adolygiad

24 Meh - 9 Gor
Gwe 7.30yh / Sad 7.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Stiwdio
Gwybodaeth pwysig

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref a themâu sy’n cynnwys ymosodiad rhywiol, treisio, materion iechyd meddwl, hunanladdiad, hunan-niweidio, herwgipio a llofruddiaeth. Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach arnoch, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau.

Cyfle i gael eich ysbrydoli a gweld pethau gyda gwedd newydd mewn gŵyl o ddramâu byrion gan ein hawduron ieuengaf.

Ers 2018, mae pobl ifanc rhwng 15 a 18 oed wedi archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol trwy ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu sydd wedi helpu i feithrin lleisiau ein awduron ieuengaf. Bydd gŵyl UpRoar, a gynhelir yn y Stiwdio, yn dod â pherfformiadau gan gyfranogwyr presennol a blaenorol ynghyd.

Perfformiadau nos Wener: Mehefin 24, Gorffennaf 1 a 8, 7.30yh
Perfformiadau nos Sadwrn gan gynnwys sesiynau gwaith ar waith: Mehefin 25, Gorffennaf 2 a 9, 7.00yh

Bydd UpRoar hefyd yn cynnig llwyfan i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd pobl ifanc niwroamrywiol, LHDTC+ a phobl sydd wedi’u dadleoli yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai ysgrifennu i ddatblygu dramâu byrion, a hynny dan arweiniad ymarferwyr arbenigol gan gynnwys Katie Elin-Salt, Rheolwr Llenyddol y Sherman Branwen Davies a’r Cydymaith Llenyddol Alice Eklund. Yna bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i weld eu darnau byr yn cael eu perfformio mewn cyfres o Sesiynau Gwaith ar Waith.

Dyddiadau y Gweithdai

  • Ar ddydd Sadwrn, Mehefin 18fed rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc o gymunedau ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Dysgwch fwy.
  • Ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 25ain rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc a fyddai fel arfer yn gweld y math yma o weithgareddau yn heriol. Dysgwch fwy.
  • Ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2il rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc LHDTC+. Dysgwch fwy.