Theatr Ieuenctid Sherman

Wrth eich bodd yn perfformio?

yt2015 youtheatre2015

I’r rhai a chanddynt ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yng nghefn y llwyfan, ceir cyfle hefyd i gysgodi'r rhai yng ngrwpiau oedran hyn y Theatr Ieuenctid yn ogystal â chreu cynhyrchiad llawn.

Wrth fynychu gweithdai wythnosol - a gynhelir gan ein hymarferwyr theatr creadigol a phrofiadol - ac wrth gael cyfle i berfformio ac i ymweld â'r theatr yn rheolaidd, byddi’n datblygu amrywiaeth eang o sgiliau llwyfan, ac yn cael profiad creadigol gwych. Yn y Sherman 'rydym yn credu mewn meithrin creadigrwydd, a rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain drwy bŵer y theatr. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithredu dull arbennig o ymarfer, sy'n sicrhau fod pob perfformiad yn deillio o syniadau'r bobl sy'n cymryd rhan.

Os yw hyn yn apelio atat ti, yna cymer olwg ar y grwpiau sydd ar gael ar y rhestr isod, a cysyllta â ni er mwyn i ni archebu lle i ti!

Dyddiadau


HYDREF:
Wythnos cyntaf o'r tymor: 18/09/2017
Hanner Tymor (Dim sesiynnau): 30/10/2017
Wythnos ola'r tymor: 04/12/2017

GWANWYN:
Wythnos cyntaf o'r tymor: 15/01/2018
Hanner Tymor (Dim sesiynnau): 19/02/2018
Wythnos ola'r tymor: 26/03/2018 

Grwpiau

Theatr Ieuenctid Grwp 1 - Blwyddyn 4 a 5 - Theatr y Sherman, Dydd Mercher 6.00pm -7.30pm
Theatr Ieuenctid Grwp  2 - Blwyddyn 6, 7 a 8 - Theatr y Sherman, Dydd Iau, 6.00pm -7.30pm
Theatr Ieuenctid Grwp  3 - Blwyddyn 9 a 10 - Theatr y Sherman, Dydd Mawrth, 6.00pm -7.30pm
Theatr Ieuenctid Grwp  4 - 16+ - Theatr y Sherman, Dydd Mercher, 7.30pm - 9.30pm
Grwp NT Connections - 13+ - Theatr y Sherman, Dydd Mercher, 7.30pm - 9.30pm

Sut i ymgeisio

Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017