Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Preifatrwydd

Preifatrwydd

Mae’r dudalen hon yn egluro sut ‘rydym yn diogelu ac yn parchu’r data ‘rydym yn ei gasglu oddi wrthych.
Yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth ‘rydym yn ei gasglu oddi wrthych.  Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti nag i unrhyw Adran o’r Llywodraeth, os nad ydych chi’n rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Data Personol

Bydd Sherman Cymru’n gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau fod preifatrwydd y Defnyddiwr yn cael ei ddiogelu.  Pan fydd y Defnyddiwr yn cofrestru â Sherman Cymru ac yn gwneud archeb, bydd Sherman Cymru angen enw, cyfeiriad ar gyfer cludiant, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.  Mae’r wybodaeth hon yn galluogi i Sherman Cymru gyflawni archeb y Defnyddiwr a rhoi gwybod i’r defnyddiwr am statws yr archeb.  Bydd manylion rhifau unrhyw gerdyn banc a ddefnyddir ar gyfer talu yn cael eu cadw ar weinyddwr diogel.

Efallai bydd Sherman Cymru’n gofyn i’r Defnyddiwr ateb amryw o gwestiynau cyffredinol amdano’i hun gan gynnwys cwestiynau am unrhyw faes sydd o ddiddordeb i’r Defnyddiwr, fel y gellir teilwra’r wybodaeth i unrhyw faes y mae Sherman Cymru’n credu bydd o ddiddordeb i’r Defnyddiwr ar gyfer  y dyfodol.

Hoffai Sherman Cymru’n ddefnyddio gwybodaeth y Defnyddiwr er mwyn trosglwyddo gwybodaeth am unrhyw faes arbennig y tu mewn i’r Cwmni y credir y bydd efallai o ddiddordeb i’r Defnyddiwr, ac ar gyfer amcanion marchnata perthnasol.   Yr unig adeg fydd Sherman Cymru’n gyrru’r deunydd hyn at y Defnyddiwr fydd os yw’r Defnyddiwr wedi rhoi tic yn y bocs “Cytunaf” ar ei Ffurflen Gofrestru.

Os fydd y Defnyddiwr, ar unrhyw adeg, yn dymuno derbyn deunydd am unrhyw un o weithgareddau eraill Sherman Cymru nad ydyw’n eu derbyn ar hyn o bryd, neu os yw’r Defnyddiwr yn dymuno peidio a derbyn unrhyw ddeunydd bellach, mae gan y Defnyddiwr hawl i ofyn am newid neu ddiddymu ei ddewisiadau drwy newid y bocs “Cytunaf” ar y Ffurflen Gais, neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Docynnau.

Bydd y data personol a gesglir gan Sherman Cymru’n cael ei werthuso o dro i dro i benderfynu a ddylid parhau i ddal gafael ar ddata o’r fath.  Gall y Defnyddiwr roi gwybod i’r Gorfforaeth drwy e-bost os nad ydyw’n dymuno i ddata gael ei gadw’n barhaol.

Ystadegau

Efallai bydd Sherman Cymru’n darparu ystadegau cyfanredol am gwsmeriaid, gwerthiannau, patrymau traffig ac unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r lleoliad i unrhyw werthwr trydydd parti cyfrifol, ond ni fydd y rhain yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol all olygu fod y cwsmer yn cael ei adnabod.

Monitro traffig y defnyddiwr

Efallai bydd Sherman Cymru yn monitro traffig y defnyddiwr ar sail gyfanredol er mwyn ei alluogi i ddatblygu a gwella’r wefan er budd pob defnyddiwr.

Diogelwch

Cynghorir Defnyddwyr nad yw’r Rhyngrwyd yn gyfrwng gwbl ddiogel.  Bydd Sherman Cymru’n gwneud pob ymdrech resymol i gadw gwybodaeth y defnyddiwr yn gyfrinachol a’i ddal ar weinyddwr diogel.  Gweithdrefnau mewnol sy’n ymdrin â’r mynediad i’r storfa a datgeliad gwybodaeth y defnyddiwr.  Ni fydd Sherman Cymru’n gwerthu nag yn trosglwyddo gwybodaeth y defnyddiwr i unrhyw drydydd parti heb yn gyntaf gael caniatâd y defnyddiwr.

Datgeliad

Gall Sherman Cymru ddatgelu gwybodaeth bersonol os bydd hynny’n ofynnol yn ôl y Gyfraith, neu os yw’n credu’n ddidwyll bod angen gwneud hynny drwy unrhyw orchymyn Llys neu gorff neu asiantaeth gyfrifol arall er mwyn diogelu neu amddiffyn hawliau neu eiddo’r  Gorfforaeth, neu i amddiffyn diogelwch personol gweithwyr y Defnyddiwr, neu’r cyhoedd yn gyffredinol.

Diogelu Data

Mae Sherman Cymru’n gwneud pob ymdrech rhesymol i weithredu’n unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998.
Am ragor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data, gallwch ffonio (Prydain) 01625 545 700 neu gallwch ymweld â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth ar http://www.informationcommissioner.gov.uk

Os bydd unrhyw newid i’r polisi preifatrwydd hwn, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Mae adolygu'r dudalen hon yn gyson yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth ‘rydym yn ei chasglu, sut ‘rydym yn ei defnyddio ac ym mha amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn rhannu’r wybodaeth â phartïon eraill.
Y fersiwn hon: 1 Ionawr 2008