TAITH yw ein menter ysgrifennu newydd, sy’n datblygu ac yn arddangos dramâu 10 munud arloesol a chyffrous yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Yn sgil proses gyflwyno agored, mae tri awdur wedi’u dewis, a datblygwyd eu sgriptiau ar y cyd ag actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol.
Eleni, rydym wedi ymuno â Theatr Iolo a Platfform i gyflwyno tair sgript ar gyfer plant 10 – 12 oed a’u teuluoedd. Bydd trafodaeth wedisioe gyda’r awduon i ddilyn.
Y ddramau
- No one wants to be in Hufflepuff gan Jeremy Linell
- Here be Dragons gan Derek Palmer
- One More Sleep gan Keiron Self
Y gweithdai
- 2.00pm – 3.30pm: Gweithdy gyda thiwtor Theatr Ieuenctid y Sherman, Nicola Reynolds.
- 3.30pm – 4.00pm: Diodydd a lluniaeth
- 4.00pm – 4.45pm: 3 x drama 10 minud ar gyfer oed 10–12
- 4.45pm – 5.15pm: Gweithdy yn seiliedig ar y ddramau