National Theatre

My Country; a work in progress

Dyddiadau

2 -6 Mai, 7.30yh
Matinee 4 & 6 Mai 2yh

Prisiau

£16
Gostyngiadau: £2 i ffwrdd
Dan 25: Hanner pris

Gwybodaeth ychwanegol

Y Brif Theatr

12+

Hyd y perfformiad: 75 munud

Yng ngeiriau pobl ledled y Du A Carol Ann Duffy
Cyfarwyddwr Rufus Norris

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

Cynhyrchiad y National Theatre

My Country; a work in progress
yng ngeiriau pobl ledled y Du a Carol Ann Duffy

Yn y dyddiau ar ôl pleidlais Brexit, siaradodd tîm o’r National Theatre (Prydain Fawr) â phobl ledled y wlad, o 9 i 97 oed, i glywed eu barn am y wlad yr ydym yn ei galw’n gartref. Mewn cyfres o gyfweliadau hynod bersonol, clywsant farn a oedd yn onest, emosiynol, doniol, ac weithiau’n eithafol. Mae My Country yn rhoi lle canolog i’r geiriau hynny.

Mae Britannia yn galw cyfarfod i wrando ar ei phobl. Daw Celyddon, Cymru, Dwyrain Canolbarth Lloegr, y Gogledd Ddwyrain, Gogledd Iwerddon a’r De Orllewin â lleisiau eu rhanbarthau. Mae’r drafodaeth yn angerddol, y saethau’n finiog, mae’r ystrydebau wedi’u hoelio a’r farn yn rhanedig. A fydd Teyrnas Unedig byth yn bosibl?

Caiff y tystebau go iawn hyn eu cydblethu ag areithiau gan arweinwyr y pleidiau ar y pryd yn y ddrama newydd arloesol hon gan Carol Ann Duffy, y bardd llawryfog, a’r cyfarwyddwr Rufus Norris.

Amserau

Dydd Mawrth 2 Mai 7.30yh (Tocynnau prin)
Dydd Mercher 3 Mai 7.30yh (Wedi gwerthu)
Dydd Iau 4 Mai 2.00yh
Dydd Iau 4 Mai 7.30yh (Tocynnau prin)
Dydd Gwener 5 Mai 7.30yh (Wedi gwerthu)
Dydd Sadwrn 6 Mai 2.00yh
Dydd Sadwrn 6 Mai 7.30yh (Tocynnau prin)

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Yng ngeiriau pobl ledled y Du A Carol Ann Duffy

Cyfarwyddwr Rufus Norris


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Cyfle olaf i weld Hud y Crochan Uwd allan ar daith wythnos yma gyda sioeau yn @GartholwgLLC @MaestegTownHall… https://t.co/gXWtrbbrgk
Sun, 19 Nov 2017