Roar Ensemble in a co-production with Sherman Cymru

Maudie's Rooms

MaudiesRoom

Dyddiadau

26 - 27 Gorffennaf

Prisiau

£7
Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, a rhaid eu prynu o flaen llaw

Gwybodaeth ychwanegol

I blant 8+ a'u teuluoedd
Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, a rhaid eu prynu o flaen llaw

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

'Memory is the treasure of the mind - come at once'

O'r un stabl creadigol â sioe ac Sherman Cymru, Cinders and Plum, bydd Maudie's Rooms yn antur bromenâd weledol, odidog i'r teulu cyfan, gydag amgylcheddau tu-chwith allan hudolus, arogleuon, synau, rhyfeddodau heb eu datrys, a stori arbennig o afaelgar.

Mae'r Athro Arlo Butterworth mewn twll go iawn. Wedi cefnu ar Harriet druan wrth yr allor, mae ar goll yn llwyr! 'Nawr, yn gwbl annisgwyl, mae wedi derbyn neges ryfedd sy'n ei alw nôl i hen Dŷ Lojin Glan-y-môr ei blentyndod. Ymunwch ag Arlo ar ei daith beryglus, wrth iddo unwaith eto gwrdd â'r bobl ryfeddol sy’n byw yn Ystafelloedd Maudie - ac yn cofio hen, hen wersi.

Byddwch yn barod i gael eich dychryn dipyn bach, a chael profiad arbennig o gyffrous!

Er mwyn ymuno yn yr antur dewch i'r Arosfan Bws sydd yn Bute Place, y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru. (Bydd angen cerdded am ychydig bach i weld y perfformiad yn 56 Stryd Bute)

Dewch i weld cam cyntaf cyffrous Maudie's Rooms, cyn iddi gael ei datblygu'n sioe lawn yn 2014.

Mae mynediad i gadair olwyn ar gael ar gyfer y perfformiadau canlynol: 7pm Dydd Gwener, 3pm a 7pm ar ddydd Sadwrn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Tocynnau ar 029 2064 6900 os gwelwch yn dda

I blant 8+ a'u teuluoedd


View Maudie's Room in a larger map

Amserau

Maudie's Rooms  
Dydd Gwener 26 Gorffenaf 3.00yh | 7.00yh
Dydd Sadwrn 27 Gorffenaf 3.00yh | 7.00yh

Adolygiadau

Dim gwybodaeth ar gael

Cast a Tîm

Crëwyd gan Louise Osborn

Cynllunwyr: Mary Drummond, Jenny Lee ac Angharad Matthews

Cast:
Julie Barclay, Anthony Correa, Adam Fuller, Hannah McPake, Katy Owen, ac yn cyflwyno The Whispering Twins


Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

Like your favourite bowl of porridge, The Magic Porridge Pot will leave you with a wonderfully warm glow this Chris… https://t.co/vUJuSjaKzY
Tue, 21 Nov 2017