Volcano

L.O.V.E

Volcano: LOVE

Dyddiadau

30 - 31 Hydref

Prisiau

£12 - £20 | Gostyngiadau: £2 i ffwrdd
Dan 25: Hanner Pris

Gwybodaeth ychwanegol

Addas ar gyfer oed 14+

Trafodaeth wedi-sioe: 30 Hydref

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

L.O.V.E.

Ménage à trois Shakespeareaidd eithafol yw L.O.V.E., gyda mymryn o Shirley Bassey yn y pair. Mae’n llawn angerdd, ysbryd, harddwch, cenfigen, ystryw a chwant.

Tri chariad yn galw i gof y bardd, y “fenyw dywyll”, a’r “bachgen hyfryd”, sy’n perfformio’r Sonedau, gan ddod â bywyd, angerdd, a thynerwch i’r testunau i geisio cyfleu'r amrywiaeth anghyffredin o emosiwn sydd o dan wyneb y cerddi cain.

Mae Volcano’n mynd i’r afael ag un o gasgliadau barddonol pwysicaf yr iaith Saesneg, gan ysgubo’r gwerthfawrogiad academaidd sych, fu’n gyfrifol am liwio barn miloedd o bobl ifanc am farddoniaeth, o’r neilltu, a chanolbwyntio ar chwistrellu bywyd newydd egnïol i destunau sy’n gyforiog o bosibiliadau.

Mae L.O.V.E. yn ddigwyddiad theatrig cofiadwy - clasur athletig, hynod egnïol sydd wedi helpu diffinio term “theatr gorfforol”. Cywaith rhwng Paul Davies a Fern Smith o Volcano, Nigel Charnock o DV8, ac Andrew Jones a’i gynllun moethus.

Oedrannu 14+: Yn cynnwys olygfeydd o natur rywiol.

Amserau

L.O.V.E. - Theatr 1

Dydd Mawrth 30 Hydref 8yh
Dydd Mercher 31 Hydref 8yh

Adolygiadau

'It is rare, as a regular theatre-goer in a western country, to see a taboo aired, broken, stamped on and thrown away in the space of a few lusty seconds.' - The Financial Times

 

Cast a Tîm

Yn seiliedig ar Sonedau Shakespeare

Cyfarwyddwr a Choreograffydd
Nigel Charnock


Galeri

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017