Sherman Cymru

It's a Family Affair...

LeeandRach

Dyddiadau

25 Medi - 12 Hydref

Prisiau

£15 - £22
Rhagddangosiadau: £12 - £20 (25 & 26 Medi)
Gostyngiadau: £2 i ffwrdd
Dan 25: Hanner pris
Bob dydd Llun: £10

Gwybodaeth ychwanegol

Capsiynau: 5 Hydref
Trafodaeth wedi-sioe: 3 Hydref

  • Gwybodaeth
  • Amserau
  • Adolygiadau
  • Cast a Tîm

Gwybodaeth

It's a Family Affair... (We'll Settle it Ourselves)

Mae cynulleidfaoedd yn cael amser gwych yn It's a Family Affair... (We'll Settle it Ourselves), ymuno â ni am noson allan ddoniol llawn o gynllwynio, plotio a chwerthin wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed.

Dyma beth mae ein cynulleidfaoedd wedi'i ddweud hyd yn hyn ar Twitter a Facebook...

“Really enjoyed 'its a family affair' @ShermanCymru last night. Well worth a watch!” Kelly Barr

“Well I Thought 'It's a Family Affair' was hilarious tonight ! #itsafamilyaffair @ShermanCymru.” Matthew J Westcott

“#ItsaFamilyAffair was a great performance, with good acting, pretty damn farcical @ShermanCymru” Sam Gillard

Ffug fethdalwyr, plant cyfoethog wedi'u difetha, trefnwyr priodasau sy'n godro arian a chyfreithwyr ar y botel. Croeso i fyd dosbarth masnachol Moscow, nouveau riche Rwsia'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Wedi'i hysgrifennu yn 1849 a'i gwahardd bron yn syth, mae comedi gyntaf Alexander Ostrovsky yn ddrama ddychan ddeifiol am gymdeithas ddi-chwaeth sydd wedi twyllo'i hun, sy'n llawn blacmêl a rhagrith, sy'n cael ei rheoli gan y rwbl, lle mae pawb yn gallu cael ei brynu, ei werthu neu'i fenthyg.

William Thomas (Twin Town, Gavin and Stacey, Belonging) yw Bolshov, y masnachwr sy'n heneiddio sy’n breuddwydio am ymddeol a chael gwared ar ei ferch ond dal ei afael yn ei gyfoeth yn yr addasiad newydd hwn gan Simon Crowther (The Get Together gan Sherman Cymru, Coronation Street).

Lee Mengo (Stella, Skins, Gwaith Cartref) yw Lazar, clerc anlwcus Bolshov, dros ei ben a'i glustiau mewn cariad, ac ar goll yn llwyr yng nghynllwyn dieflig ei feistr...

Mae Siân Reeves (Cutting It a Mount Pleasant) yn defnyddio'i dawn gomedi ddihafal ei hun wrth bortreadu Ustinya, trefnydd priodasau heb ei hail, gyda'i bys ym mhotes pawb, a chanddi wendid am gotiau ffwr sabl... rhai byw, wrth gwrs.

Yn ymuno â nhw mae'r wynebau adnabyddus Valmai Jones a Guy Lewis, Ri Richards, ac yn cyflwyno Rachel Redford a Gareth Tempest.  

Y cwestiwn mawr yw, pwy sy'n gallu gweld y cyfle mawr?

Noson o gynllunio a chwerthin.  

Mae It's a Family Affair... (We'll Settle it Ourselves) yn gynhyrchiad gan Sherman Cymru wedi'i gyfarwyddo gan ein Cyfarwyddwr Cyswllt Roisin McBrinn. 

SianMain    RiRich1    LeeMengo1

Siân Reeves       Ri Richards          Lee Mengo

ValmaiJ    RachRedford    WillTfa

Valmai Jones     Rachel Redford   William Thomas

Lewis Guy    GarethTemp

Guy Lewis          Gareth Tempest

@ShermanCymru
#ItsaFamilyAffair

Amserau

It's a Family Affair... (We'll Settle it Ourselves) - Theatr 1  
Dydd Mercher 25 Medi (Rhagddangosiadau) 7.30yh
Dydd Iau 26 Medi (Rhagddangosiadau) 7.30yh
Dydd Gwener 27 Medi 7.30yh
Dydd Sadwrn 28 Medi 7.30yh
Dydd Llun 30 Medi 7.30yh
Dydd Mawrth 1 Hydref 7.30yh
Dydd Mercher 2 Hydref 7.30yh
Dydd Iau 3 Hydref 7.30yh
Dydd Gwener 4 Hydref 7.30yh
Dydd Sadwrn 5 Hydref 7.30yh
Dydd Llun 7 Hydref 7.30yh
Dydd Mawrth 8 Hydref 7.30yh
Dydd Mercher 9 Hydref 7.30yh
Dydd Iau 10 Hydref 7.30yh
Dydd Gwener 11 Hydref 7.30yh
Dydd Sadwrn 12 Hydref 7.30yh

Adolygiadau

"It’s A Family Affair is undeniably funny, fast-paced and witty, and shows that farce can still hold a firm place in contemporary theatre.” Charlie Hammond, Welsh Young Critic

"It’s A Family Affair is consistently funny (except when it intentionally isn’t), and given its instantly recognisable characters and their predicaments, is effortlessly relatable." British Theatre Guide

"It’s a Family Affair is the perfect choice for a classical adaptation, and is made particularly relevant to a Welsh audience" Elin Williams, Welsh Young Critic

Cast a Tîm

Gan: Alexander Ostrovsky

Addasiad gan: Simon Crowther

Cyfarwyddwr: Róisín McBrinn

Cynllunydd: Alyson Cummins

Cast: 

Guy Lewis, Valmai Jones, Lee Mengo, Rachel Redford, Siân Reeves, Ri Richards, Gareth Tempest, William Thomas.


Galeri

Trydar diweddaraf

@ShermanTheatre

RT @Re_Live_Org: 1/3 #MeToo Wales Thank you to everyone who has already submitted an anonymous story to the event @ShermanTheatre on 25 Nov…
Sat, 18 Nov 2017